Tân ym Mhentraeth
PostiwydMae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn gorsaf betrol ar yr A5025 ym Mhentraeth, Ynys Môn. Cawsant eu galw yno am 04.03 o'r gloch y bore yma (Dydd Gwener 3 Ebrill).
Mae peiriannau o Borthaethwy, Llangefni, Biwmares a dau o Fangor ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel o Fangor a'r Rhyl, yr uned meistrioli digwyddiadau o'r Rhyl a'r cariwr dwr o Gaernarfon yn bresennol.
Mae'r diffoddwyr yn defnyddio offer anadlu, prif bibellau dwr a phibellau tro a monitorau daear i daclo'r tân. Bu'n rhaid gorfodi trigolion ystâd dai Nant y Felin i adael eu cartrefi a'u symud i'r ysgol gynradd ym Mhentraeth.
Mae'r A5025 ym Mhentraeth ynghau a gofynnir i'r cyhoedd osgoi'r ardal.
Mae criwiau yn dal yn bresennol ar hyn o bryd.