Tân ym Mhentraeth- ail ddiweddariad
Postiwyd
Mae diffoddwyr tân mewn gorsaf dannwyd ar yr A5025 ym Mhentraeth, Ynys Môn ar hyn o bryd. Cafwyd yr alwad gyntaf am 04.03 o'r gloch y bore yma (Dydd Gwener 3ydd Ebrill).
Mae peiriannau tân o Fangor a Llangefni, a'r peiriant cyrraedd yn uchel o Fangor yn dal i fod yn bresennol.
Mae'r diffoddwyr tân wedi llwyddo i fynd i mewn i'r adeilad ac maent bellach yn tampio'r llawr gwaith.
Bu'n rhaid i drigolion Ystâd Nant Y Felin adael eu cartrefi a chawsant eu symud i Ysgol Gynradd Pentraeth, a bu'n rhaid cau'r A5025.
Mae'r Heddlu wedi gadael i drigolion ddychwelyd i'w cartrefi erbyn hyn, ac mae'r ffordd wedi ei hailagor.
Mae'r criwiau a Heddlu Gogledd Cymru wrthi'n ymchwilio i achos y tân.