Tân ar fynydd Tal y Waen, Dolgellau
PostiwydMae peiriannau tân o Ddolgellau, Blaenau Ffestiniog, Abermaw, Tywyn, y Bala a Harlech a'r uned meistroli digwyddiadau o'r Rhyl yn bresennol mewn tân ar fynydd Tal y Waen, Islaw'r Dre, Dolgellau.
Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad am 1.33pm heddiw (Dydd Mawrth 7fed Ebrill) a oedd yn adrodd am dân ar y mynydd.
Mae'r diffoddwyr tân yn defnyddio curwyr i geisio rheoli'r tân sydd wedi lledaenu ar draws 40 acer sgwâr o eithin.