Helpwch ni i fynd i'r afael â thanau bwriadol yn ystod y gwyliau
Postiwyd"Ydych chi'n gwybod beth mae'ch plant chi'n ei wneud dros y gwyliau?"
Dyma'r cwestiwn y mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn ei ofyn i rieni i helpu i fynd i'r afael â thanau bwriadol yn ystod gwyliau'r Sulgwyn.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i leihau achosion o losgi bwriadol dros y blynyddoedd diwethaf - ond wrth i'r dyddiau ymestyn ac wrth iddi gynhesu, rydym yn aml iawn yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol.
Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill mae'r gwasanaeth tân ac achub yn parhau i dderbyn mwy o alwadau i danau bwriadol nac ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn.
Mae nifer o fentrau , yn cynnwys partneriaethau gydag asiantaethau eraill, megis y gwaith ar y cyd rhwng y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a Heddlu Gogledd Cymru, mentrau ieuenctid Prosiect y Ffenics, yn ogystal â nifer o ymgyrchoedd diogelwch wedi eu targedu, wedi helpu i leihau achosion o losgi bwriadol.
Oherwydd yr ymdrechion hyn cafwyd gostyngiad sylweddol o 68% dros y deng mlynedd diwethaf ac mae'r gostyngiad wedi parhau yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi bwriadol: "Mae'r gostyngiad hwn yn newyddion da - ond rydym yn dibynnu ar rieni i'n helpu i sicrhau bod oes achosion o losgi bwriadol dros y Sulgwyn pan fydd plant yn mwynhau eu gwyliau hanner tymor.
"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau maith yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth, sydd wedyn yn golygu oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.
"Hoffwn apelio ar i rieni a gwarcheidwaid geisio bod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae eu plant yn ei wneud a phwysleisio bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.
"Meddyliwch am y canlyniadau - efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw am ein cymorth ac efallai na fyddwn yn gallu dod atoch cyn gyflymed neu cyn rhwydded ag yr hoffem oherwydd ein bod yn delio gyda thân bwriadol."
Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol.
Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol #helpwchiataltanaubwriadol ac ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk
Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath fe'ch cynghorwn i alw Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu ffoniwch 101.