Tân yn Llaneurgain
PostiwydCafodd criwiau eu galw i dân yn Allt Goch Lane, Llaneurgain am 5.50pm ddydd Mercher 27ain Mai.
Anfonwyd pum peiriant tân ynghyd â'r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd, y Cludwr Ewyn a'r Uned Meistroli Digwyddiadau i'r digwyddiad.
Mae'r tân mewn pit biswail sydd wedi ei orchuddio gyda theiars. O ganlyniad gellir gweld mwg du yn yr ardal.
Mae Swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar y safle i gynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac maent yn asesu effaith posibl y digwyddiad ar yr amgylchedd.