Cadwch alcohol a chyffuriau oddi ar ein ffyrdd yr haf yma
PostiwydGyda'r haf rownd y gornel a'r posibilrwydd o bartïon o amgylch y barbeciw ar nosweithiau mwyn, mae'r heddlu ar draws Cymru yn rhybuddio modurwyr y bydd swyddogion yn targedu unrhyw un sydd yn yfed a gyrru neu'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Yn ystod yr ymgyrch fydd yn para drwy fis Mehefin dan arweiniad Heddlu Gogledd Cymru, bydd pedwar heddlu Cymru yn cynyddu'r pwysau ac yn canolbwyntio ar y gyrwyr hynny sy'n yfed a gyrru neu sy'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau
Meddai'r Rhingyll Alun Davies o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym i gyd yn mwynhau'r nosweithiau hirach a'r cyfleoedd i gymdeithasu yn ein cartrefi, gerddi, tafarndai lleol, gwyliau a digwyddiadau eraill.
"Ond mae pris i'w dalu am feddwl y gallwch fod yn ddiogel y tu ôl i'r llyw ar ôl i chi fod yn yfed alcohol neu gymryd cyffuriau. Bydd mwy o bobl yn cael eu temtio i yfed un neu ddau ac wedyn efallai gyrru heb feddwl am y canlyniadau.
"Meddyliwch cyn i chi fynd allan, gwyliwch beth ydych yn yfed a chynlluniwch sut y byddwch yn mynd adref.
"Hwn fydd yr haf cyntaf i swyddogion ddefnyddio'r offer newydd sy'n profi cyffuriau canabis a chocên, ynghyd â'r offer sydd ganddynt yn barod i brofi am alcohol, felly mae gennym fwy o declynnau i ddal y rhai hynny sy'n cymryd y risg beryglus hon. Gan ddefnyddio gwybodaeth gan y cyhoedd byddwn yn barod i gadw'r ffyrdd yn ddiogel, boed yn y nos neu'r bore wedyn."
Daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Mawrth 2015 sy'n gosod terfynau cyfreithiol ynghylch faint o sylwedd - cyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau presgripsiwn ddylai fod yn system unigolyn os ydynt yn gyrru. Mae'r ddyfais newydd yn galluogi swyddogion i gynnal prawf swab am ganabis neu gocên wrth ochr y ffordd.
Mi wnaeth swyddogion arestio'r unigolyn cyntaf y diwrnod ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym pan gafodd dyn 19 oed o Ynys Môn ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad 'difrod yn unig' yng Nghaergybi. Cafodd ei gyhuddo ac fe ymddangosodd o flaen Ynadon y dref lle cafodd ddirwy o £305 a'i wahardd rhag gyrru am 18 mis.
Rhwng Mawrth 4ydd a Mai 28ain mi wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gynnal 61 prawf gyda'r dyfeisiadau newydd, ac roedd 18 o'r profion hyn yn rhai positif.
Mae gan Heddlu Gogledd Cymru strategaeth gadarn o safbwynt gorfodi'r gyfraith mewn perthynas â'r '5 angheuol' - y pum trosedd sy'n achosi'r nifer mwyaf o farwolaethau ac anafiadau ar y ffordd; yfed/cymryd cyffuriau a gyrru, gyrru peryglus gan gymryd risgiau diangen, goryrru, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Ychwanegodd Rhingyll Davies: "Rydym yn benderfynol o helpu i leihau'r risg o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd drwy gynnal ymgyrchoedd gorfodi wedi'u targedu'n benodol tuag at grwpiau o bobl a lleoliadau risg uchel gan orfodi'r gyfraith mewn perthynas â'r '5 angheuol'.
"Os ydych chi'n yfed a gyrru, neu'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau, mae'n bosibl y byddwch nid yn unig yn dinistrio'ch bywyd eich hun, ond bywydau pobl eraill diniwed. Nid oes unrhyw esgus dros yfed pan fyddwch dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a gall y canlyniadau fod yn drychinebus.
"Nid yn unig y mae perygl y gallech ladd neu achosi niwed difrifol i chi'ch hun neu rywun arall, ond bydd rhaid i chi fynd i'r llys a gallech wynebu dirwy, colli'ch trwydded neu gael eich anfon i'r carchar. Bydd gennych gofnod troseddol ac fe allech golli'ch swydd."
Meddai Susan Storch, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Drwy gynnal ymgyrchoedd addysgu, hyfforddi a chyhoeddusrwydd ar draws Cymru, mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn ceisio atgoffa pawb o'r risg gyda'r '5 Angheuol.' Yn anffodus, er yr holl rybuddion mae gormod o yrwyr yn barod i gymryd y risg a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru wedi ymrwymo i leihau'r nifer o bobl sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd drwy dargedu ymddygiad annerbyniol a chefnogi ein cydweithwyr yn yr heddlu yn ystod yr ymgyrch a drwy gydol y flwyddyn. Dylai gyrwyr sy'n anwybyddu'r gyfraith sylweddoli y bydd siawns gref y byddent yn cael eu dal a'u herlyn ac mi fydd y cosbau yn ddifrifol."
Hefyd mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi'r ymgyrch eleni. Meddai Dermot O'Leary, Parafeddyg sy'n gweithio yn Y Rhyl a Phencampwr Diogelwch y Ffyrdd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd yn ddigwyddiadau sydyn ac erchyll sy'n gallu dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Yn anffodus mae gormod o yrwyr yn parhau i gymryd y risg a gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Y gobaith ydi y bydd sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau yn arwain at lai o ddigwyddiadau lle mae'n rhaid i ni ddelio â'r canlyniadau."
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae diffoddwyr tân yn mynychu nifer o wrthdrawiadau traffig y ffyrdd bob blwyddyn ac maent yn dyst i rai o oblygiadau erchyll sy'n dod o gamgymeriadau sy'n cael eu gwneud bob dydd gan bobl tu ôl i'r llyw. Rydym yn falch o gefnogi'r ymgyrch atal yfed a gyrru er mwyn ceisio addysgu'r cyhoedd am y peryglon sy'n gysylltiedig ag yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau."
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am unigolion y credir iddynt fod yn gyrru a hwythau dros y terfyn cyfreithiol gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw a chyfrinachol ar 0800 555 111.