Agoriad swyddogol yn nodi dechrau partneriaeth newydd yn Nefyn
Postiwyd
Neithiwr, agorodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Orsaf Dân a Heddlu Nefyn yn swyddogol (dydd Mawrth 9fed Mehefin).
Mae'r gyd-orsaf, wedi ei lleoli ar Ffordd Dewi Sant, Nefyn, yn orsaf dân a heddlu weithredol lawn.
Dechreuodd y gwaith ar y prosiect hwn yn ôl ym mis Ebrill 2014, ac mae'r buddsoddiad wedi uwchraddio'r cyfleusterau yn yr hen orsaf dân ar Well Street a oedd wedi gweithredu ar yr un safle ers y 1920au.
Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Roedd yr orsaf dân flaenorol yn Nefyn yn hen adeilad yr oedd mawr angen ei uwchraddio. Heddiw rydym yn gweithio'n agosach gyda'n partneriaid yn yr heddlu, ac felly roedd yn gwneud synnwyr perffaith i staff yr heddlu a staff tân ac achub weithio o'r un adeilad.
"Rydym wedi profi cyd-leoliad ein staff ar achlysuron yn y gorffennol, gan gynnwys y Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd yn Llanelwy, ac mae ein perthynas bob amser wedi bod yn llwyddiannus iawn. Edrychwn ymlaen at feithrin y berthynas hon hefyd, ynghyd â chyfleoedd eraill i gydweithredu, yma yn Nefyn ac mewn lleoliadau eraill yn y dyfodol.
"Mae'r prosiect wedi golygu buddsoddiad sylweddol ar ran y gwasanaeth tân ac achub ac mae'n dangos ein hymrwymiad i'n diffoddwyr tân ac i'r gymuned leol."
Ymgymerwyd â'r gwaith adeiladu gan P T Griffiths. Mae'r orsaf dân nawr yn cynnwys bae ymgynnull, ystafell sychu, ystafell paciau, ystafell waith offer anadlu a swyddfa gwylfa. Bydd gan yr heddlu swyddfa ac ystafell gyfweld, a bydd y ddau sefydliad nawr yn rhannu toiledau i ferched, dynion a thoiledau i bobl anabl, cyfleusterau cawod, ystafell ddarlithio, cegin a champfa.
Mae'r orsaf newydd yn hygyrch i bawb yn y gymuned ac yn cydymffurfio â gofynion mynediad Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r adeilad cyfan yn cynnwys system wresogi nwy â rheolaeth fodern ynghyd â system chwistrellu os oes tân. Mae hefyd yn orsaf eco-gyfeillgar gyda system casglu dwr glaw i ailgylchu dwr i'w ddefnyddio yn y toiledau.
Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r ddau sefydliad yn cyflwyno amrediad eang o wasanaethau sydd yn gofyn am adeilad gyda'r cyfleusterau diweddaraf ar gyfer y staff sy'n gweithio ynddo. Mae'r adeilad pwrpasol hwn yn darparu cyfleusterau rhagorol, nid yn unig i helpu hyfforddi diddoddwyr tân i ddelio â digwyddiadau, ond hefyd i gyflwyno'r cynlluniau addysg a rhwystro amrywiol a weithredir yma yng Ngogledd Cymru gan y ddau sefydliad."
Meddai Arolygydd Dosbarth De Gwynedd, Dewi Jones,: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod yn rhan o'r cyfleusterau hyn.
"Medrwn ond llwyddo i rwystro trosedd trwy weithio'n agos â'n partneriaid, ac mae cydleoli gwasanaethau cyhoeddus yn gam cadarnhaol ymlaen, o ystyried y cyfyngiadau ariannol sy'n wynebu'r sefydliadau.
"Bydd yn ein galluogi i gynnal presenoldeb heddlu cryf yn y gymuned yn Nefyn."
Ychwanegodd Julian Sandham, y Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd: "Mae gennym berthynas waith agos gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eisoes, felly, lle bynnag y bo modd, mae cyfleusterau a rennir yn gwneud synnwyr perffaith ar adeg pan fo cylidebau yn dynn.
"Mae cael eiddo newydd, modern hefyd yn golygu bod gan ein swyddogion a'n staff amgylchedd gwaith brafiach a all ond fod o fantais wrth ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r gymuned leol.
"Trwy gydweithredu arloesol fel hyn, medrwn barhau i ddarparu gwasanaeth plismona gwell i gymunedau ledled Gogledd Cymru a lleihau costau ar yr un pryd."