Ceir ar dân yn ardal Wrecsam
PostiwydMae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i chwe char gael eu rhoi ar dân yn ardal Hightown, Wrecsam heno (nos Sul 14 Mehefin).
Ychydig ar ôl 10pm fe hysbyswyd Heddlu Gogledd Cymru gan y Gwasanaeth Tân ac Achub fod cerbyd ar dân ar Waterloo Close.
Derbyniwyd adroddiadau, drwy ystafell reoli'r heddlu, bod pum cerbyd arall wedi eu rhoi ar dân ac ar hyn o bryd mae cyfanswm o chwe cherbyd wedi eu llosgi.
Mae'r Gwasanaethau Brys, yn cynnwys hofrennydd yr Heddlu, yn bresennol ac mae ymchwiliad ar y gweill.
Meddai'r Prif Arolygydd Jane Banham o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn trin y digwyddiad hwn fel un hynod ddifrifol ac yn ffodus, ni chafodd unrhyw un ei anafu. Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad ger ardal Waterloo Close, i gysylltu â ni ar unwaith.
"Mae patrolau ychwanegol bellach yn cael eu gweithredu a hoffwn dawelu meddyliau trigolion lleol ein bod yn cydweithio'n agos â'r Gwasanaeth Tân ac Achub er mwyn dal yr unigolion perthnasol."
Fe ddylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 neu gellir ffonio Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cyfeirnod S086339.