Hybu Wythnos Atal Boddi
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i gadw'n ddiogel wrth i'r tywydd gynhesu, a bydd yn cefnogi Wythnos Atal Boddi rhwng 20-28 Mehefin 2015.
Mae pawb yn hoffi trochi mewn dwr oer yn ystod misoedd poeth yr haf, ond fe all cronfeydd dwr, llynnoedd, afonydd a dwr mewndirol beryglu eich bywyd chi a'ch anwyliaid.
Er bod y dwr yn edrych yn braf, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, mae'n bosib bod peryglon na allwch chi mo'u gweld o dan y dyfroedd a all eich gwneud yn sâl, eich anafu ac - yn waeth byth - eich lladd.
Mae'r ymgyrch am eleni yn canolbwyntio ar Sioc Dwr Oer, rhywbeth sydd yn lladd nifer o bobl bob blwyddyn gan nad ydi nifer o bobl ifanc - hyd yn oed y rhai sydd yn gallu nofio'n dda- yn ymwybodol o'r effaith y gall hyn ei gael ar eu gallu i nofio mewn dwr agored.
Bu farw dau ddyn a chafodd dau arall eu cludo i'r ysbyty ar ôl mynd i drafferthion wth nofion mewn dwr oer iawn ger rhaeadr yn Llanberis yn gynharach fis yma.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth dros fisoedd yr haf, mae'n annhebygol bod cyrff dwr mewndirol wedi cael cyfle i gynhesu. Mae sioc dwr oer yn creu ymateb corfforol ac fe all hyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl nofio, a hyd yn oed eu lladd.
"Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn y dwr yn llawer iawn o hwyl, a does wnelo Wythnos Atal Boddi a Diogelwch Dwr ddim byd ag atal pobl rhag mwyhau'r gweithgareddau hyn. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o'r peryglon posib ac annog pobl i gadw'n ddiogel."
Mae nofio mewn dyfroedd dieithr a mynd allan i ddwr agored yn beryglus iawn a gofynnaf i bawb gymryd pwyll arbennig yn ymyl dwr."
Yn drist iawn fe allai'r rhan fwyaf o farwolaethau ymysg pobl ifanc rhwng 16-30 yn 2013 ar draws y DU fod wedi cael eu hatal pe byddai camau wedi cael eu cymryd i atal y pump angheuol:
1. Sioc dwr oer - fe all tymheredd dwr isel achosi i'ch coesau a'ch breichiau fynd yn ddiffrwyth a'ch lladd
2. Wyddoch chi beth sydd o dan y dwr? Efallai bod peryglon yno i'ch trapio, llygredd ,ayb.
3. Cerrynt neu gyflyrau dwr - yn cynnwys llifogydd, dyfnderoedd anhysbys, rhew, dwr garw, trolifau.
4. Yfed alcohol - peidiwch â nofio os ydych wedi bod yn yfed
5. Hyfedredd nofio - peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwch yn gallu ymdopi gyda heriau nofio mewn dwr agored oherwydd eich bod yn gallu nofio mewn pwll nofio.