Croesawu Cynllun Gwarchod Ysgolion yn Ysgol Uwchradd Caergybi
PostiwydMae cynllun sy'n annog pawb i gadw llygad barcud ar eu hysgol leol a'i chadw'n rhydd rhag trosedd yn ystod gwyliau ysgol wedi ei lansio yn Ysgol Uwchradd Caergybi yr wythnos hon.
Nod y cynllun Gwarchod Ysgolion yw cael rhieni, trigolion ac athrawon, ynghyd â'r gwasanaethau argyfwng a'r awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i gadw ysgolion a'r ardaloedd o gwmpas yn ddiogel ac yn rhydd rhag trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Cafodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Caergybi y cyfle i ddysgu am waith Heddlu Gogledd Cymru ac edrych ar yr offer a'r cerbydau a ddefnyddir gan griwiau o Orsaf Dân Caergybi, gan gyfarfod diffoddwyr tân, aelodau o Dîm Atal Tanau Bwriadol Gogledd Cymru a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gyda'r pwyslais ar annog disgyblion i gymryd rhan er mwyn cadw eu hysgol yn ddiogel.
Meddai'r Arolygydd Julie Sheard o Adran Diogelwch Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru: "Anogir ysgolion i addysgu a dargyfeirio plant i ymladd yn erbyn lladrad a niwed troseddol. Gall adeiladau ysgol hefyd fod yn darged i graffiti a fandaliaeth yn ystod gwyliau hir yr haf. Rydym yn dibynnu ar aelodau'r cyhoedd am eu cefogaeth ac annog iddynt adrodd am bob digwyddiad i'r Heddlu neu'n ddi-enw trwy Crimestoppers."
Bydd diffoddwyr tân sy'n dychwelyd o alwadau yn cadw llygad ar adeiladau ysgolion ar eu ffordd yn ôl i'w gorsafoedd.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Atal Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n ddigalon meddwl y gallai ysgolion gael eu targedu gan bobl yn gosod tanau. Mae ysgolion yn adnoddau pwysig iawn yn ein cymunedau a rhaid i ni wneud popeth a fedrwn i'w diogelu. Rwy'n annog aelodau'r cyhoedd i gadw llygad ar ein hysgolion yn ystod y gwyliau, ac i adrodd i'r heddlu os oes ganddynt unrhyw wybodaeth berthnasol. Gyda'n gilydd, rhaid i ni rwystro'r gweithredoedd difeddwl hyn sydd nid yn unig yn effeithio ysgolion, ond y gymuned ehangach hefyd."
Dywedodd Rheolwr Partneriaeth Gwynedd a Môn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Celfyn Evans: "Mae Gwarchod Ysgolion yn rhan hanfodol o'n gwaith diogelwch cymunedol, ac rwy'n credu, po fwyaf o gysylltiad sydd gennym gydag aelodau'r gymuned, po fwyaf llwyddiannus y byddwn yn lleihau trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol."
"Gofynnwch i chi eich hun: ydych chi'n byw yn agos at ysgol neu'n gweld ysgol o'ch cartref, neu'n gyrru heibio ysgol yn rheolaidd? Os ydych, yna medrwch helpu! Cymerwch eiliad neu ddau i edrych ar yr ysgol. Os gwelwch unrhyw beth amheus, yna cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru."
Anogir unrhyw un sy'n gweld ymddygiad amheus mewn ysgolion neu o'u cwmpas, neu mewn adeiladau ysgolion, i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Os gwelwch drosedd yn cael ei chyflawni, ffoniwch 999 bob amser. Dylid gwneud galwadau nad ydynt yn argyfyngau i 101 neu i Crimestoppers Cymru yn ddi-enw ar 0800 555 111.