Digwyddiad yn Llanberis - Diweddariad
PostiwydAr hyn o bryd mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio gyda digwyddiad yn Llanberis.
Meddai Alex Goss, Uwch-Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda digwyddiad ger rhaeadr yn Llanberis wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw yno y bore yma.
"Roedd pedwar dyn wedi mynd i drafferthion ar ôl nofio ger Rheilffordd yr Wyddfa.
"Cadarnhaf bod dyn 33 oed wedi marw o ganlyniad.
"Mae dyn 21 oed yn dal i fod ar goll ac mae'r gwasanaethau brys wrthi'n chwilio amdano.
"Derbyniodd dau ddyn arall, 27 a 25 oed, driniaeth yn yr ysbyty ond maent wedi cael mynd adref erbyn hyn.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.