Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymgysylltu gyda phobl dros 50 oed yn ystod Ffrindia' Fair
Postiwyd
Mae Canolfan Porthmadog yn croesawu’r bartneriaeth Ffrindia', wrth iddynt gynnal eu digwyddiad blynyddol i ddathlu gwaith caled ei wirfoddolwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae Ffrindia' yn bartneriaeth rhwng Mantell Gwynedd, Age Cymru Gwynedd a Môn a’r Gwasanaeth Allgymorth i Ofalwyr. Mae’r prosiect, sydd werth bron i filiwn o bunnoedd, yn cael ei ariannu gan Gronfa Les, Y Gronfa Loteri Fawr a hynny am gyfnod o bum mlynedd. Y nod yw cefnogi gwirfoddolwyr i fod yn gyfaill i bobl dros 50 oed sydd yn unig, ynysig ac ar gyrion cymdeithas.
Unwaith eto, cynhelir y Ffair Ffrindia' heddiw (3ydd Gorffennaf) yn Y Ganolfan, Porthmadog. Mae’n rhoi cyfle i wirfoddolwyr ac unigolion gael sgwrs a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan asiantaethau a sefydliadau sydd yn cefnogi pobl hŷn yng Ngwynedd.
Bydd aelodau’r Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd yn bresennol, i ymgysylltu gyda’r cyhoedd sydd yn y categori bregus o safbwynt eu hoed, gan roi cyngor ar y cymorth sydd ar gael, a chynnig Archwiliadau Diogelwch yn y Cartref.
Meddai Carys Williams, Rheolwr y Prosiect Ffrindia', "Sefydlwyd y prosiect er mwyn helpu pobl dros 50 oed, drwy recriwtio gwirfoddolwyr a all helpu mewn unrhyw ffordd, ond y gallant hefyd yn syml iawn fod yn ffrind i bobl hŷn sydd yn teimlo’n unig, ynysig ac ar gyrion cymdeithas.
"Mae gennym griw o gefnogwyr a gwirfoddolwyr ffantastig, ac rydym am ddathlu’r bobl hyn a’r ymdrech y maent yn ei roi o’u caredigrwydd hwy eu hunain.
"Mae gwirfoddoli yn gallu rhoi llawer o foddhad i’r gwirfoddolwyr a’r bobl sydd yn derbyn y gofal, ac rydym yn cael cymaint o adborth positif gan y naill barti.
"Yr hyn sydd yn braf i’w weld hefyd yw’r gefnogaeth gan sefydliadau ac asiantaethau eraill. Dyma pam ein bod yn cynnal y diwrnod hwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled drwy gydol y flwyddyn, a dangos ein gwerthfawrogiad iddynt."
Meddai Celfyn Evans, Rheolwr Partneriaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru "Rydym bob amser yn mwynhau digwyddiadau fel hyn. Mae’n rhoi cyfle i ni ymgysylltu gyda’r cyhoedd, ac, yn bwysicach fyth, mae’n rhoi cyfle i ni siarad gyda grwpiau ac unigolion bregus na fyddai wedi bod yn bosib fel arall.
"Mae’r gwaith y mae Ffrindia' yn ei wneud i helpu pobl dros 50 oed yn ffantastig, yn enwedig gwaith y gwirfoddolwyr, ac roeddem am fod yn bresennol i’w llongyfarch ar eu gwaith caled.
"Mae hefyd yn gyfle da i ni ymgysylltu gyda grwpiau bregus a gwneud yn siŵr eu bod yn deal ein bod yma i’w cefnogi a’u cadw’n ddiogel yn y cartref, ac y mae nifer o bethau y gallwn ni ei wneud i sicrhau hynny."
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu eich bod yn dymuno cael cymorth, cysylltwch gyda Ffrindia, yn swyddfeydd Mantell Gwynedd, Caernarfon, ffôn 01286 672626 neu e-bost ffrindia@mantellgwynedd.com