Ymateb y Gwasanaeth Tân ac Achub i ddatganiad yr FBU ar ôl digwyddiad yn Llangefni
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i ddatganiad Uned y Brigadau Tân (yr FBU) i sicrhau trigolion lleol ar ôl y tân yn Stryd yr Eglwys, Llangefni ar ddydd Mawrth.
Meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead: “Yn gyntaf, hoffwn sicrhau’r cyhoedd ar Ynys Môn bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymroddedig i’w diogelwch ac yn gweithio i amddiffyn pob cymuned yng Ngogledd Cymru yn gyfartal, gan ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon ac effeithiol i bawb sy’n byw, gweithio a theithio trwy’r rhanbarth.
“Ar ôl y digwyddiad hwn, adroddwyd mai’r rheswm nad oedd criwiau ar gael yn Llangefni yn ystod y cyfnod hwn oedd o ganlyniad i doriadau ariannol. Gallaf gadarnhau nad yw hyn yn wir ac nad yw trefniadau criwio yn Llangefni wedi newid mewn unrhyw ffordd.
“Fel llawer o’n gorsafoedd tân, mae Llangefni yn gweithredu’r System Dyletswydd Rhan-amser (RDS) ac mae adegau pan, oherwydd eu prif gyflogaeth, nad yw rhai o’r diffoddwyr tân rhan-amser ar gael i ymateb i alwadau – ond mae gan Orsaf Dân Llangefni record ragorol o fod ar gael ar gyfer digwyddiadau ac ym mis Gorffennaf roeddynt ar gael 87% o’r amser, sy’n gadarnhaol.
“Y ffaith yw mai’r amser a gymerwyd i’r peiriant cyntaf gyrraedd y digwyddiad o amser yr alwad 999 oedd 19 munud 45 eiliad – nad yw’n amser anarferol o hir i wasanaethau tân ac achub fel ein ni sy’n gwasanaethu ardal wledig fawr gyda gweithlu gweithredol sy’n cynnwys diffoddwyr tân rhan-amser yn bennaf, sy’n gorfod teithio yn gyntaf i’w gorsaf dân leol i gael eu peiriant a’u hoffer ac yna teithio i’r digwyddiad.
“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod gorsafoedd tân allweddol ar gael i fynychu digwyddiadau. Mae hyn yn golygu rheoli amrywiadau yn argaeloedd criwiau tân o awr i awr, trwy gydol y dydd, yn dibynnu ar eu gwaith neu ymrwymiadau eraill.
“Mae’r Gwasanaeth yn cydnabod cyfyngiadau’r system RDS – mae’n broblem rydym yn gorfod ei hwynebu bob dydd ac mae’n symptom o system a oedd, pan gafodd ei dylunio yn wreiddiol yn y 1940au, yn dibynnu ar bobl a oedd yn byw a gweithio yn agos at eu gorsaf dân leol. Heddiw, mae pobl yn aml yn gorfod teithio’n bellach i’r gwaith ac o ganlyniad nid ydynt ar gael i ymateb i’w gorsaf leol yn ystod y dydd. “Yn ddiweddar, cwblhaodd y Gwasanaeth ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân RDS a chyflogi dros 50 aelod newydd o staff. Byddwn yn cynnal ymgyrch recriwtio arall ym mis Ionawr. At hyn, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bwriadu cynnal proses recriwtio amser llawn yn ddiweddarach eleni. Buaswn yn annog aelodau’r cyhoedd i gadw llygad ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd nesaf ac ystyried gwneud cais i ymuno â’r Gwasanaeth i helpu amddiffyn eu cymuned.
“Mae argaeledd diffoddwyr tân yn cael ei fonitro’n ofalus bob amser a gall y cyhoedd fod yn sicr ein bod, ledled Gogledd Cymru, yn gweithio’n barhaus i gael yr argaeledd gorau. Serch hynny, mae’n broblem gydnabyddedig ac fel Gwasanaeth rydym yn brysur yn ystyried atebion amgen i ddarparu gwasanaeth tân yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol, gan ychwanegu at a gwella’r system RDS draddodiadol a fabwysiadwyd gan wasanaethau tân ac achub ledled y DU.
“Mae achos y tân yn Llangefni nawr wedi ei sefydlu fel un damweiniol.
“Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i glywed barn pobl ar ddarparu gwasanaethau fforddiadwy yng Ngogledd Cymru. Mae’r Awdurdod Tân ac Achub yn adolygu a gwella’r gwasanaethau a ddarperir ganddo yn barhaus, ac fel rhan o broses gynllunio flynyddol bydd yn cynnal ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd ym mis Medi.
Rydym yn annog pawb yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan ac ymateb gyda’u barn hwy. Bydd yr ymgynghoriad hwn ar gael i’w weld ar ein gwefan.