Tân mewn tŷ yn Shotton
PostiwydMynychodd diffoddwyr tân o Lannau Dyfrdwy eiddo ar Green Lane, Shotton ar ddydd Llun 17eg Awst, am 2:51am.
Archwiliwyd dyn i weld os oedd wedi anadlu mwg gan staff ambiwlans ond nid aeth i’r ysbyty.
Sefydlwyd bellach mai tân bwriadol ydoedd. Gwisgodd pedwar diffoddwr tân offer anadlu, a defnyddio dwy bibell ddŵr i roi’r tân allan.
Diddefodd yr eiddo ddifrod tân 100% i’r gegin, y cyntedd a llofft ar y llawr cyntaf a difrod mwg i’r ystafelloedd eraill ar y llawr cyntaf, a difrod mwg cymedrol i’r lolfa.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym yn annog pob deiliad i sicrhau bod ganddynt larymau mwg sy’n gweithio yn eu heiddo. Roedd y bobl hyn yn ffodus neithiwr i ddianc o’r eiddo heb anaf. Mae’r digwyddiad hwn yn profi eto pa mor bwysig ydyw i bawb gael larymau mwg yn eu cartrefi, gan y bydd yn rhoi rhybudd cynnar o dân. Rhaid eu cynnal yn rheolaidd trwy brofi’r batri unwaith yr wythnos a’i newid yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
“Nid oes esgus i unrhyw un yng Ngogledd Cymru fod heb larymau mwg gan fod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cynnig archwiliad diogelwch cartref yn rhad ac am ddim i bawb a bydd yn gosod larymau mwg lle bo angen. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac rwy’n annog pawb i ofyn am ymweliad trwy ffonio ein rhif rhadffon 0800 169 1234 neu ebostio cfs@nwales-fireservice.org.uk .
“Os ydych yn darganfod tân ni ddylech geisio delio ag o eich hun. Ewch allan o’r eiddo, gan gau pob drws ar eich ôl, ffonio’r Gwasanaeth Tân ac Achub ac aros allan. Ni ddylech byth, dan unrhyw amgylchiadau, fynd yn ôl i mewn i’r eiddo. I gael mwy o wybodaeth ar ddiogelwch tân, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk .