Dynes yn marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Nyserth
Postiwyd
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Waterfall Road, Dyserth am 4.20 o’r gloch heddiw (Dydd Gwener 18fed Medi).
Cafodd criw o’r Rhyl, Abergele a Treffynnon eu galw i’r digwyddiad ac ar ôl cyrraedd daethant wyneb yn wyneb â thân a oedd wedi lledaenu’n sylweddol ar lawr cyntaf yr adeilad.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu i fynd i mewn i’r adeilad lle daethant o hyd i gorff y ddynes.
Mae ymchwiliad ar hy cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill.
Ni does rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.