Dwyn i’r amlwg bwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i deulu ddianc o dân yn y Rhyl
Postiwyd
Mae swyddogion tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i ddynes, ei chwech o blant a’i wŷr gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref yn y Rhyl.
Fe anfonwyd dau beiriant i’r tân yn yr eiddo yn Palace Avenue am 22.42 o’r gloch Ddydd Mercher 23ain Medi.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân. Llwyddodd pawb i adael yr adeilad yn ddiogel.
Mae ymchwiliad i achos y tân nawr ar y gweill. Bu i’r ddynes 40 oed ddioddef mân losgiadau i’w dwylo a chafodd y teulu cyfan driniaeth yn y fan a’r lle o ganlyniad i anadlu mwg cyn cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth ragofalol.
Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych: “Ni allaf bwysleisio digon pa mor ffodus ydy’r trigolion hyn eu bod wedi llwyddo i ddianc o’r tân yn fyw.
“Roeddent yn gwylio’r teledu pan fu i un o’r plant arogli mwg cyn sylweddoli bod gwely ar dân mewn ystafell wely ar y llawr gwaelod.
“Fe all tân ledaenu’n gyflym iawn, ac oni bai eich bod yn canfod y tân yn gynnar drwy ddefnyddio larymau mwg rydych yn fwy tebygol o farw mewn tân yn eich cartref. Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu pa mor gyflym y gall tân ddatblygu yn ddiarwybod i chi.
“Rydych yn chwarae gêm beryglus iawn drwy beidio â gosod larymau mwg yn eich cartref. Pam peryglu’ch bywyd chi a’ch anwyliaid?
“Mae’n hanfodol eich bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn eich cartref er mwyn eich cadw’n ddiogel – maent yn rhoi rhybudd cynnar o dân er mwyn rhoi cyfle i chi ddianc yn ddianaf. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb yng Ngogledd Cymru. I gofrestru am archwiliad galwch 0800 169 1234 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos neu ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk."