Gorsaf Dân Dinbych yn dathlu 150 o flynyddoedd
PostiwydMae’n gyfnod arbennig iawn i gymuned Dinbych sydd yn dathlu canmlwyddiant a hanner yr orsaf dân.
I ddathlu diwrnod mawr yr orsaf mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd ar yr 20fed o Fedi, rhwng 11am-3pm.
Yn ystod y diwrnod bydd cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes yr orsaf a sut y mae wedi datblygu dros y blynyddoedd, yn ogystal â chyfle i gael eu tywys o gwmpas yr orsaf a gweld y peiriannau tân.
Fe fydd cyfle hefyd i’r ymwelwyr ddysgu mwy am ddiogelwch tân a diogelwch ffyrdd drwy siarad gyda diffoddwyr tân profiadol a fydd yn cymryd rhan mewn ymarferion tân drwy gydol y dydd.
Bydd cwisiau a chystadlaethau ar gael, a bydd cyfle i blant gael cwrdd â Tanni, ein masgot diogelwch tân.
Meddai Richard Fairhead, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch iawn o weld un o’i orsafoedd tân hynaf yn dathlu canmlwyddiant a hanner o waith, a’r modd y mae wedi dod yn rhan o dreftadaeth y dref dros y blynyddoedd.
“Y mae wedi dod yn rhan ganolog a sefydlog o gymuned Dinbych ers 1865. Heddiw mae’r orsaf wedi ei staffio gan ddiffoddwyr tân Rhan Amser sydd hefyd yn gweithio mewn swyddi eraill. Mae postmon, cogydd, weldiwr, plymwr a myfyrwyr prifysgol yn gweithio ar yr orsaf ac mae gan yr orsaf un injan ac un cerbyd oddi ar y ffordd.
“Un peth sydd heb newid o’r dyddiau hynny pan fu’r criwiau’n gweithio o’r neuadd farchnad agored, y tu ôl i Westy’r Bull, y safle yn neuadd y dref neu’r orsaf dân bwrpasol a ddefnyddir heddiw, yw ymrwymiad diffoddwyr tân Dinbych sydd yn falch o barhau gyda’r traddodiad o wasanaethu’r gymuned.”
Fe ychwanegodd Mike Neumann, Rheolwr Gwylfa, Gorsaf Dân Dinbych: “Rydw i wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir hon yn hanes yr orsaf, ac mae’n braf cael y cyfle i ddathlu’r achlysur gyda’r gymuned. Rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan gymuned Dinbych dros y blynyddoedd, ac mae’n braf cael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.”
“Er ein bod ni’n edrych ymlaen at gael ychydig bach o hwyl ar y diwrnod, ac i ddathlu 150 o flynyddoedd, mae’n braf cael y cyfle i siarad gyda’r cyhoedd am ddiogelwch, un ai yn y cartref neu ar y ffyrdd.
“Mae hi bob amser yn braf atgoffa pobl ein bod yma i wneud mwy na diffodd tanau, a’n bod ni’n atal tanau rhag cynnau yn y lle cyntaf. Mae’r diwrnod agored yn mynd i fod yn gyfle gwych i annog trigolion i wrando ar ein cyngor a chymryd mantais o’n harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref sydd ar gael yn rhad ac am ddim.”