Gwasanaeth Tân c Achub Gogledd Cymru yn cynnig cyngor ‘Syml’ ar ddiogelwch tân i fusnesau
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig negeseuon ‘syml’ i fusnesau i’w rhannu gyda staff yn ystod Wythnos Busnesau Diogel Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân (CFOA), sydd yn digwydd rhwng 7fed -13eg Medi 2015.
Mae’r wythnos wedi ei threfnu dros gyfnod pan fydd nifer o fusnesau yn cyflogi staff tymhorol cyn y Nadolig. Mae’n bosib na fydd y recriwtiaid hyn yn derbyn yr un math o hyfforddiant ymwybyddiaeth tân â staff parhaol, ac na fyddant yn ymwybodol o’r camau y dylent eu cymryd i amddiffyn eu hunain, eu cwsmeriaid a’u cydweithwyr. Mae hefyd yn gyfle da i atgoffa staff o bwysigrwydd diogelwch tân.
Y neges am eleni yw ‘Cadwch bethau’n SYML a Diogel’ ac mae’n cynnig y cyngor canlynol:
- Storiwch stoc yn ddiogel. Cadwch goridorau, grisiau ac allanfeydd yn glir
- Nodwch bwyntiau galw’r larwm tân fel y gallwch rybuddio eraill
- Gwnewch yn siŵr bod drysau ynghau er mwyn atal lledaeniad tân
- Cadwch bethau a all fynd ar dân ymhell oddi wrth bethau a all achosi tân
- Rhowch wybod i rywun os oes problemau o ran diogelwch tân
- Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod beth i’w wneud os bydd y larwm mwg yn seinio
Mae helpu busnesau i reoli eu risgiau tân ac arbed bywydau a diogelu eu busnesau yn erbyn colledion ariannol a masnachol yn allweddol, yn enwedig yn ystod y cyfnod cystadleuol hwn lle mae twf a chynaladwyedd yn flaenoriaeth. Fe all tân amharu’n sylweddol ar fusnesau – mae’n fwy tebygol y bydd busnes yn goresgyn tân os bydd y risgiau wedi eu nodi ymlaen llaw a’r rhagofalon cywir wedi eu rhoi ar waith i atal tân rhag cynnau yn y lle cyntaf, neu leddfu ei effaith.
Dengys ystadegau bod 2,139 o danau wedi digwydd mewn safleoedd diwydiannol, 5,561 mewn safleoedd masnachol/manwerthu, a 1,898 mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach/uwch ac ysbytai/safleoedd iechyd yn 2013/14. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am annog busnesau i wneud yn siŵr bod eu staff yn ymwybodol o’r peryglon tân posib, a beth i’w wneud mewn argyfwng.
Meddai Llywydd CFOA, Peter Dartfordd: “Efallai bod y neges ar gyfer Wythnos Busnesau Diogel y DU am eleni yn un SYML, ond mae’n bwysig bod busnesau yn ystyried y risgiau tân yn eu sefydliadau, a’u bod yn gwneud yn siŵr bod eu gweithwyr yn ymwybodol o’r hyn a all achosi tân a’i ganlyniadau.
“Mae’r gwasanaeth tân yn gweithio’n agos gyda busnesau i’w helpu i reoli risgiau tân yn effeithiol, diogelu eu staff, eiddo a stoc- a’u bywoliaeth o bosib. Cadwch bethau’n syml a chadwch eich busnes yn ddiogel.”