Tân Angheuol mewn Ty ym Mlaenau Ffestiniog
PostiwydMae archwiliad ar y gweill ar ôl tân angheuol mewn ty ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr (14 Ionawr).
Yn fuan ar ôl 21.30hrs hybyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod ty ar dân ar Ffordd Cwm Bowydd.
Defnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau dwr i fynd i mewn i'r adeilad a dod â gwr allan o'r eiddo.
Datganwyd bod y gwr oedrannus yn farw yno gan y Gwasanaeth Ambiwlans.
Mae archwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru ar y gweill nawr i ganfod achos y tân.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael ar hyn o bryd.