Tân mewn ty yn Llangernyw
PostiwydMae diffoddwyr tân yn bresennol ar ôl tân mewn eiddo ar Barc Aelas, Llangernyw brynhawn heddiw (Sadwrn 16eg Ionawr).
Fe'u galwyd i adroddiadau am dân am 14.03 o'r gloch.
Deliodd pedwar criw o ddiffoddwyr tân o Lanrwst, Abergele, Bae Colwyn a'r Rhyl â'r tân a oedd wedi datblygu'n dda gan ddefnyddio chwe set o offer anadlu, dwy bibell ddwr a phrif bibell chwistrellu. Mynychodd y peiriant ag ysgol ac esgynlawr o'r Rhyl hefyd.
Cafwyd y tân dan reolaeth yn gyflym - ac nid oedd unrhyw un gartref adeg y digwyddiad.
Mae criwiau yn dal i fod yn bresennol yn y digwyddiad dampio i lawr.
Nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd - mae yr achos y tân yn destun ymchwiliad.