Dynes oedrannus yn yr ysbyty ar ôl tân mewn ty yn Abergele
PostiwydMae dynes yn yr ysbyty ar ôl tân mewn ty yn Abergele.
Galwyd diffoddwyr tân o Abergele i'r digwyddiad yng Ngorwel, Abergele am 4.19 o'r gloch bore heddiw (Llun 18fed Ionawr).
Defnyddiodd y criwiau ddwy bibell ddwr a phedair set o offer anadlu wrth ddelio â'r tân.
Achubwyd dynes 86 oed o'r eiddo ac aethpwyd â hi i'r ysbyty. Cafodd dynes arall, 58 oed, archwiliad rhagofalus gan barafeddygon yn yr eiddo.
Mae achos y tân yn cael ei archwilio ar hyn o bryd.