Newid yn y gyfraith mewn perthynas â gosod taenellwyr tân
Postiwyd???????????????Ar 1 Ionawr 2016 Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd ble mae'n orfodol gosod taenellwyr tân mewn eiddo domestig newydd. Mae hyn yn golygu fod yn rhaid gosod taenellwyr mewn tai newydd neu dai wedi'u hailwampio, fflatiau, cartrefi gofal, neuaddau preswyl a llety preswyl o fathau eraill sy'n cael eu defnyddio fel prif breswylfeydd.
Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn croesawu'r ddeddfwriaeth newydd yma fel cam pwysig ymlaen o ran darparu amgylchedd byw mwy diogel ym mhob eiddo preswyl yng Nghymru.
Os ydych chi'n byw mewn eiddo lle mae taenellwr domestig wedi'i osod byddwch yn llawer mwy diogel rhag tân a bydd unrhyw dân damweiniol yn llawer mwy tebygol o gael ei rwystro rhag lledaenu, neu hyd yn oed ei ddiffodd yn gyflym iawn."
Mae rhagor o wybodaeth am systemau taenellu a sut i sicrhau eu bod nhw'n gweithio'n effeithiol i'w weld yn yr arweiniad ar daenellwyr tân a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac sydd i'w weld yn: