Ymgyrch Calan Gaeaf a Tân Gwyllt
PostiwydGyda dathliadau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt ar y gorwel, mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd unwaith eto er mwyn hybu Ymgyrch BANG (Be A Nice Guy) sydd yn anelu i hybu dathliadau diogel.
Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg wrth ochr Partneriaid Diogelwch Cymunedol a chynghorion lleol. Bydd yn cynnwys digwyddiadau wedi ei haneli at bobl ifanc a bydd yn rhedeg o Hydref 21 i Dachwedd 6 er mwyn hyrwyddo diogelwch.
Bydd y digwyddiadau yn cael ei baratoi a dal gan Dimau Plismona Lleol a phartneriaid, i gyd wedi’i ariennir gan y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru mewn partneriaeth a’r Ymddiriedolaeth yr Heddlu a’r Gymuned (PACT).
O gwmpas Gogledd Cymru, mae Swyddogion Heddlu Cyswllt Ysgolion yn cyfarfod a disgyblion yn ysgolion a clybiau ieuenctid i siarad amdan sut mae eu hymddygiad yn gallu effeithio pobl eraill. Ar ben hyn, maent yn dysgu nhw sut i gadw eu hunain yn ddiogel os ydynt yn mynd allan i chwarae cast neu geiniog Bydd y cyngor y maent yn eu derbyn yn cael ei brintio ar gardiau post a marciau llyfr iddynt eu cadw.
Mae posteri wedi cael ei greu ar gyfer yr ymdrech (yn gadael pobl sy’n chwarae cast neu geiniog os ydynt yn gallu galw yn dŷ neu ddim) a gall pobl lawrlwytho a phrintio yma neu gael copi o’ch gorsaf heddlu lleol.
Poster ie
Poster na
Dywedodd Uwcharologydd Jane Banham, Tîm Diogelwch Cymunedol yn Heddlu Gogledd Cymru, “Yma yn Heddlu Gogledd Cymru rydyn yn gweithio yn agos hefo cymunedau i gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo’n diogel a wedi eu cefnogir yn ystod amser yma o’r blwyddyn. Tra bod rhan fwyaf o bobl yn mwynhau amser yma o’r blwyddyn yn synhwyrol, mae yna lleiafrif sy’n defnyddio’r amser fel esgus i droseddu ac ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. Wrth weithio hefo ein partneriaid ac asiantaethau arall gallwn daclo'r problemau yma a gwneud yr amser yma o’r flwyddyn ddiogel a hwylus i bawb.
“Mae’n SCCHs yn pob ardal wedi bod yn trefnu digwyddiadau ar gyfer cymunedau lleol ar gyfer dysgu pobl amdan ddiogelwch tân mewn perthynas â Noson Tân Gwyllt a hefyd y canlyniadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn hefyd yn annog pobl i fynychu arddangosiadaucoelcerth wedi’i drefnu yn swyddogol, a bydd yn cael eu cyhoeddi yn arwain i fyny at Dachwedd 5. “
Dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân yn Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, “ Pob blwyddyn, mae di-ri o bobl yn cael eu hanafu a llosgi yn ddrwg yn yr amser yn rhedeg i fyny at amser Calon Gaeaf a Noson Tân Gwyllt pryd maent yn goleuo coelcerthi a chynnau tân gwyllt. Mae digwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu yng Ngogledd Cymru yn darparu'r gwerth gorau am arian ar gyfer adloniant a hefyd yn sicrhau nad oes angen teuluoedd risgio peryglon goelcerth gardd a phartis thân gwyllt.
“Mae o’n anghyfreithlon i werthu tân gwyllt i unrhyw un o dan 18 mlwydd oed. Mae llawer o fathau o dân gwyllt yn cael eu gwahardd rhag gwerthu i'r cyhoedd. Mae taflu tân gwyllt hefyd yn anghyfreithlon - mae dirwy o hyd at £ 5000 yn aros unrhyw un a gafwyd yn euog.”
Am restr o’r digwyddiadau i gyd sy’n digwydd ar draws Gogledd Cymru, ymwelwch â gwefan y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.nwales-fireservice.org.uk