Rhybudd yn dilyn tri achos o dân yn y cartref dros y penwythnos
Postiwyd
Unwaith yn rhagor rydym yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg wedi tri achos o dân yng Ngogledd Cymru dros y penwythnos.
Cafodd criwiau eu galw i Stryd Tomos, Caergybi am 05.19 o’r gloch y bore yma (Dydd Sul 9fed Hydref) yn dilyn adroddiadau o dân. Cafodd dyn ei gludo i’r ysbyty.
Cafodd criwiau eu galw i dân mewn fflat yn Bath Street, y Rhyl am 21.07 o’r gloch nos Sadwrn 8fed Hydref.
Digwyddodd y trydydd tân yn Ffordd Garnedd, Y Felinheli am 08.35 o’r gloch ddydd Sadwrn 8fed Hydref. Mae ymchwiliadau i achos y tanau hyn ar y gweill.
Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Ynys Môn a Gwynedd: “Mae larymau mwg yn hanfodol er mwyn cael rhybudd cynnal mewn achos o dân. Ni allwn bwysleisio digon pa mor bwysig yw gosod a chynnal a chadw larymau mwg. Mae’n rhaid eu cynnal a’u cadw’n rheolaidd drwy brofi’r batri unwaith yr wythnos a’i newid pan fydd angen yn unol â chyfarwyddiau’r gwneuthurwr.
Wrth i’r tywydd oeri ac wrth i’r nosweithiau fynd yn hwy mae’n bwysig eich bod yn cadw at y cyngor diogelwch isod i’ch helpu i leihau’r perygl o dân yn y cartref wrth ichi geisio cadw’n gynnes.
- Cymrwych bwyll ger tanau agored. Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siŵr bod eich simdde yn lân.
- Cadwch wresogyddion cludadwy ymhell o lenni a dodrefn a pheidiwch byth â’u gorchuddio â dim byd.
- Rholiwch flancedi trydan pan nad dydych yn eu defnyddio. Peidiwch byth â’u plygu. Peidiwch â’u defnyddio os ydy’r gwifrau yn hen neu wedi treulio.
- Cadwch ganhwyllau ar eu sefyll, defnyddiwch ddaliwr canhwyllau addas a pheidiwch byth â’u gadael heb neb i gadw llygaid arnynt. Diffoddwch hwy yn llwyr.
- Os cewch doriad pŵer a bod gennych larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i’r prif gyflenwad trydan, gwnewch yn siŵr bod y batri wrth gefn yn gweithio.
- Mewn achos o dân, ewch allan, arhoswch allan a galwch 999 yn syth.