Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio ynglŷn â thwyll posib
Postiwyd
Os gwelwch yn dda, byddwch yn wyliadwrus rhag twyll posib yn ymwneud â galwadau sy’n cael eu gwneud gan rywun sy’n honni eu bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub ac yn gwerthu larymau mwg i drigolion Gogledd Cymru.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym wedi cael gwybod gan nifer o bobl eu bod wedi cael galwad gan unigolyn a oedd yn honni eu bod yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’u bod yn gwerthu larymau mwg.
“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref rhad ac am ddim ac fel rhan o’r archwiliadau hyn mae staff yn ymweld â chartrefi a gosod larymau mwg newydd lle bo angen. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac nid ydym yn codi tâl. Mae ein staff yn gwisgo gwisg y Gwasanaeth ac maent yn cario cerdyn adnabod gyda hwy bob amser.
“Hoffwn atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus a chysylltu â’r adran Safonau Masnachu os ydynt yn cael galwad o’r fath”