Y Tîm Cymorth Cymunedol wedi helpu 100 o bobl ers ei lansiad
Postiwyd
Bu i ‘r gwasanaethau brys yng Ngogledd Cymru gydweithio i lasio menter newydd gyda’r nod o gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi yn Awst 2016.
Ers ei lansiad mae’r Tîm Cymorth Cymunedol wedi helpu dros gant o bobl. Mae’r cynllun peilot hwn ar waith yn Sir Ddinbych a Chonwy ac mae'r tîm arbenigol yn gweithio gyda’i gilydd i ymateb i bobl fregus sydd wedi cael codwm n y cartref.
Nod y fenter yw gostwng nifer y bobl sy’n cael eu hanfon i’r ysbyty yn dilyn codwm, a thrwy hyn leddfu’r baich a’r galw ar y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaeth meddygol.
Mae’r tîm yn cynnwys aelodau staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd wedi eu hyfforddi’n llawn ac sydd â’r gallu i ddarparu gwasanaeth rhagorol a gwell profiad i’r claf.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn falch iawn gyda llwyddiant y fenter hon ac rydym yn falch bod ein tîm wedi llwyddo i helpu dros gant o bobl heb orfod galw am ambiwlans.
“Mae’r buddion i’r gwasanaethau brys ac i wasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i gydweithio yn amlwg, yn ariannol ac mewn perthynas â gwella’r gwasanaethau yr ydym ni’n eu darparu yn ein cymunedau.
“Drwy ymateb fel tîm arbenigol i bobl sydd wedi cael codwm yn y cartref ond heb gael eu hanafu rydym yn gobeithio y gallwn leddfu rhywfaint o’r baich a darparu gwasanaeth gwell.
Meddai Mark Timmins, Arweinydd Cydweithredu rhwng y Tri-gwasanaeth yng Ngogledd Cymru ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol yn enghraifft o’r modd y gall y gwasanaethau brys gydweithio i wella’r gofal a ddarperir i gleifion a gwella diogelwch cymunedol.
"Mae pob un o’r cleifion sydd wedi cael codwm yn cael eu hatgyfeirio i’n llwybr cwympiadau os ydy hynny’n addas ac mae’r tîm hefyd wedi bod yn darparu archwiliadau diogelwch yn y cartref ac archwiliadau atal troseddu.”
Mae’r fenter yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r tri gwasanaeth brys, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Galw Gofal / Care Connect, a Gwasanaeth Monitro Galwadau Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Mae’r tîm yn gweithio patrymau sifft ar yr adegau hynny lle mae’r galw mwyaf rhwng 7am - 3pm a 3pm - 11pm. Maent yn ymateb mewn cerbyd sydd wedi ei frandio’n arbennig ar gyfer y Tîm Cymorth Cymunedol ac mae ganddynt yr offer sydd ei angen arnynt yn y cerbyd, yn cynnwys dyfeisiadau codi fel y gall cleifion gael eu codi.
Mae’r gwasanaeth yn cael ei anfon drwy ystafell reoli’r Gwasanaeth Ambiwlans, felly does dim rhaid i’r cyhoedd wneud dim byd yn wahanol, fodd bynnag bydd y Tîm Cymorth Cymunedol yn cael ei anfon yn hytrach nag ambiwlans pan fydd hynny’n addas.
Mae’r fenter hon ac eraill wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Gwella Parhaus Cymru Gyfan 2016 yn y categori ‘Cydweithio’ a oedd yn dathlu llwyddiant Tîm Prosiect Atal ac Ymateb y Tri Gwasanaeth