Tân ym Morfa Bychan
PostiwydMynychodd diffoddwyr tân o Borthmadog a Harlech dân mewn eiddo ym Morfa Bychan am 7.48pm ar nos Fawrth 15fed Tachwedd 2016.
Sefydlwyd mai achos y tân oedd batri wedi gorboethi mewn ffôn symudol, a arweiniodd at ddinistrio’r llofft yn llwyr gan dân a mwg, a difrod mwg difrifol i weddill y llawr cyntaf. Roedd difrod mwg hefyd i lawr daear yr eiddo.
Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos pa mor gyflym y gall tân ymledu. Ein cyngor ni yw y dylech ond brynu gwefrwyr o ffynhonnell ddibynadwy. Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwr bob amser, diffoddwch y gwefrwyr a’u dad-blygio cyn mynd i’r gwely a pheidiwch byth â gadael eitemau’n gwefrio neu heb dalu sylw iddynt am gyfnodau maith.
“Dylech bob amser wefrio eich ffôn ar wyneb caled. Peidiwch â’i wefrio ar ddillad gwely neu unrhyw wyneb llosgadwy.
“Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar o dân ac yn caniatáu i chi ddianc o’r adeilad a galw’r gwasanaeth tân ac achub. Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy’n gweithio yn eich eiddo a phrofwch y larwm bob wythnos.”
Dyma ddolen i fideo sy’n dangos pa mor gyflym y gall tân ddatblygu mewn llofft o ganlyniad i ffôn symudol yn gwefrio - https://www.youtube.com/watch?v=CgCaZEH35ys&t=12s