Elusennau’n derbyn elw’r arddangosfa tân gwyllt
PostiwydYn ddiweddar daeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy i dderbyn dros £2400.00, y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol ar y 5ed o Dachwedd 2016.
Fe dderbyniodd yr elusennau canlynol gyfran o'r arian:
DAFFODILS, Eye 2 Eye, Olivia Funnel, CLIC Sargent, Gofal Cancr Macmillan, Clwb Dydd Gwener Plymouth Street ,Grwp Brodwaith Shotton, Cymdeithas Tenantiaid Shotton,Clwb dros 50 Ewlo , Cymdeithas Tenantiaid Manley Court, Ambiwlans St John, Roundtable Glannau Dyfrdwy, Parkinsons UK, Brownies 1af Shotton ac Elusen y Diffoddwyr Tân.
Roedd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn bresennol i gyflwyno'r sieciau i gynrychiolwyr o'r gwahanol elusennau.
Meddai Ian Werner, Rheolwr Gwylfa o Lannau Dyfrdwy ac un o drefnwyr y noson:
"Daeth llawer o bobl i gefnogi'r noson eleni a hoffwn ddiolch i bawb a'm cefnogodd a'i gwneud hi'n bosib i ni gyfrannu arian i'r elusennau haeddiannol hyn.
"Roedd yn bleser gweld yr elusennau'n derbyn y sieciau gan Simon Smith, ein Prif Swyddog Tân. Hoffwn ddiolch i'r holl gynrychiolwyr am ddod i dderbyn y rhoddion.
“Hoffwn hefyd ddiolch i bawb wnath helpu gyda threfnu’r digwyddiad ac yn ystod yr arddangosfa, yn enwedig Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Y Fflint. Rydym yn falch ein bod yn gweithio gyda thrigolion Gogledd Cymru i’w cadw mor ddiogel ac sydd bosib, ac mae cael gweld yr arian yn mynd un ôl i mewn i’r gymuned yn gwneud yr holl waith caled yn werth chweil.”