Canhwyllau – rhybudd ar ôl digwyddiad yn Rhosnesni
Postiwyd
Mae Uwch Swyddog Tân yn apelio i drigolion i gymryd gofal gyda chanhwyllau a fflamau noeth yn y cyfnod hyd at y Nadolig ar ôl tân yn Rhosnesni neithiwr.
Galwyd dau griw i eiddo ar Hawkstone Way, Rhosnesni am 17.22 o’r gloch neithiwr, dydd Iau 8fed Rhagfyr.
Roedd cannwyll wedi ei gadael ar gownter y gegin, a wnaeth i’r larymau mwg seinio.
Galwodd cymydog 999 a hysbysu’r gwasanaeth tân ac achub.
Achosodd y tân ddifrod mwg 100% i’r gegin.
Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos peryglon canhwyllau sy’n cael eu gadael mewn ystafell a pha mor gyflym y gall tân afael.
“Mae canhwyllau’n bethau cyffredin mewn llawer o gartrefi, yn enwedig dros gyfnod y Nadolog – ond mae’n bwysig cofio nad rhywbeth addurniadol yn unig yw cannwyll. O gael ei gadael gall fflam noeth achosi distryw.
“Er eu bod yn edrych yn ddeniadol, mae canhwyllau yn fflamau noeth o hyd ac felly mae angen cymryd gofal ychwanegol wrth eu defnyddio. Opsiwn arall yw defnyddio cannwyll fach sy’n gweithio â batri, sy’n ddigon rhad, yn hytrach na chael fflam go iawn. Mae’r canhwyllau hyn yr un mor effeithiol o ran creu awyrgylch ond yn llawer mwy diogel na chanhwyllau arferol. Hefyd, mae’n syniad da cadw tortsh a batris sbâr i’w defnyddio rhag ofn y bydd y pŵer yn mynd.”
Mae Paul yn cynghori trigolion sy’n defnyddio canhwyllau go iawn i ddilyn y cyngor isod:
- Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau mewn cynhwysydd priodol, ar wyneb gwastad a digon pell o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – megis llenni
- Ni ddylid gadael plant nac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu cynnau
- Peidiwch byth â gadael cannwyll ar ôl ei goleuo. Diffoddwch nhw os ydych chi’n gadael yr ystafell a gwnewch y siŵr eu bod wedi eu diffodd yn iawn cyn mynd i’r gwely
- Cadwch y pwll o wêr yn glir rhag darnau o’r wic, matsis a deunydd arall bob amser
- Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi ei hawyru’n dda, ond dylid osgoi drafftiau neu gerrynt awyr – bydd hyn yn helpu i rwystro llosgi cyflym neu anwastad, creu huddug a diferu gormodol
- Torrwch y wic i ¼ modfedd bob tro cyn llosgi. Gall wic sy’n rhy hir neu wedi plygu achosi llosgi anwastad, diferu neu fflachio
- Peidiwch â symud cannwyll ar ôl ei goleuo
- Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr ar amser llosgi a defnydd priodol
- Rhoddwch ganhwyllau arogli mewn cynhwysydd sy’n gwrthsefyll gwres, gan fod y canhwyllau hyn wedi eu dylunio i droi’n hylif wrth losgi, er mwyn cynyddu’r arogl
- Peidiwch â llosgi nifer o ganhwyllau yn agos at ei gilydd oherwydd gall hyn achosi’r fflam i neidio
- Defnyddiwch ddiffoddwr neu lwy i roi canhwyllau allan. Mae’n fwy diogel na’u chwythu gan y gall hynny achosi sbarc.
Ychwanegodd:
“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol bod yn barod os yw’r gwaethaf yn digwydd. Gall larwm mwg sy’n gweithio roi amser hanfodol i chi adael yr adeilad, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi’r larwm mwg yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer llwybr dianc.”