Diweddariad - Tân yng Nghyffordd Llandudno
PostiwydMae'r gwasanaethau brys yn parhau i geisio diffodd tân mewn eiddo masnachol yn Vale Road, Cyffordd Llandudno ar ôl i'r digwyddiad gael ei riportio am 19.29 o'r gloch heno (nos Iau 18 Chwefror).
Mae dyn wedi cael triniaeth yn lleoliad y tân am effeithiau mwg.
Mae nifer o dai sydd wrth ymyl lleoliad y tân wedi cael eu gwacau.
Gofynnir i bobl gadw draw o'r ardal er mwyn i'r gwasanaethau brys allu delio â'r digwyddiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ddod â'r digwyddiad dan reolaeth ac i sicrhau y gall y trigolion ddychwelyd i'w tai cyn gynted â phosibl.