Diweddariad arall - Tân yng Nghyffordd Llandudno
PostiwydMae'r gwasanaethau brys yn parhau i fod yn lleoliad y tân a ddigwyddodd mewn eiddo masnachol yn Vale Road, Cyffordd Llandudno neithiwr (nos Iau 18 Chwefror).
Ar un adeg roedd dros 40 o ddiffoddwyr tân yno yn ceisio taclo'r tân. Mae'r tân bellach dan reolaeth ond mae rhai criwiau yn parhau i fod yno yn gwlychu'r hyn sy'n weddill o'r adeilad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio'n agos â Scottish Power i sicrhau bod y pwer trydanol yn cael ei adfer yn yr ardal cyn gynted â phosib a hynny er mwyn i drigolion y tai a gafodd eu gwacau allu dychwelyd i'w cartrefi.
Mae peirianwyr adeiladu yn ceisio asesu pa mor ddiogel yw'r adeilad a gafodd ei effeithio.
Bydd yr Heddlu a'r Diffoddwyr Tân yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i'r digwyddiad er mwyn ceisio sefydlu achos y tân.