Digwyddiad ger Corwen
PostiwydMae diffoddwyr tân ar hyn o bryd yn bresennol mewn digwyddiad traffig ffordd ym Mryneglwys ger Corwen ar ôl i'r ystafell reoli dderbyn galwad am 13.20 o'r gloch.
Mae criwiau o Wrecsam yn bresennol yn y digwyddiad, sy'n cynnwys cludwr tanwydd mawr. Mae gwaith yn cael ei wneud i ddiogelu'r tanwydd.
Mae'r A5104 wedi ei chau o ganlyniad ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn rheoli traffig. Gofynnir i bobl osgoi'r ardal.
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.