Colli cemegau ar yr A55
PostiwydMae criwiau tân o Fae Colwyn, Bangor, Abergele a Wrecsam yn bresennol mewn digwyddiad lle mae cemegau wedi arllwys ar yr A55.
Derbyniodd ystafell reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru alwad am 10.48am fore heddiw (Dydd Mawrth 22ain Mawrth) yn adrodd bod cemeg wedi arllwys o gerbyd ar yr A55 i'r gorllewin, rhwng cyffordd 21 a chyffordd 22.
Mae peiriannau tân o Fae Colwyn Bay, Abergele, Bangor a Wrecsam, yr uned ymateb i ddigwyddiad a'r uned amddiffyn yr amgylchedd yn bresennol yn y digwyddiad.
Mae'r A55 wedi cau yn y ddau gyfeiriad a chynghorir y cyhoedd i ddefnyddio llwybrau gwahanol wrth i'r gwasanaethau argyfwng gael rheolaeth ar y digwyddiad.