Colli cemegau ar yr A55 - diweddariad
PostiwydMae'r A55 yn parhau i fod ar gau yn y ddau gyfeiriad ac mae criwiau yn dal yn y digwyddiad yn ceisio adennill 27,000 litr o sylwedd cemegol a gwneud yr ardal yn ddiogel.
Mae cwmni adennill cemegau arbenigol nawr yno yn gweithio gyda chyrff partner i gael rheolaeth ar y digwyddiad.
Mae criwiau tân o Fae Colwyn, Bangor, Abergele a Wrecsam wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad ar yr A55 i'r gorllewin rhwng cyffordd 21 a chyffordd 22 ers pan dderbyniwyd galwad am 10.48am.
Mae gwyriadau ar yr A55 ond bydd yr ardal a effeithir ar gau am beth amser.