Lansio ymgyrch canlyniadau tanau bwriadol ym Mlaenau Ffestiniog
PostiwydGweithiodd staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain mewn partneriaeth heddiw i lansio ymgyrch ymwybyddiaeth tanau bwriadol yn Ysgol y Moelwyn Blaenau Ffestiniog.
Fel rhan o'r lansiad, dangoswyd ffilm newydd i fyfyrwyr ynglyn â chanlyniadau tanau bwriadol a'r effaith y medrent ei chael ar deuluoedd a chymunedau. Anelir y ffilm fer 'Still Laughing' at ddisgyblion oedran ysgol uwchradd a hyn. Y thema yw annog pobl sy'n cynnau tanau neu sy'n meddwl am gynnau tanau'n fwriadol i feddwl am ganlyniadau dechrau tanau glaswellt a mynydd yn fwriadol, ac y gall rhywbeth sy'n edrych fel hwyl a thipyn o 'laff' fod â chanlyniadau difrifol i'r un sy'n cynnau'r tân eu hunain (cofnod troseddol), tân gwyllt, y dirwedd, economi Cymru ac yn bwysicaf oll, mae hefyd yn golygu y gall diffoddwyr tân gael eu rhwystro rhag mynd i argyfwng go iawn - rhywun sydd wedi ei ddal mewn tân mewn ty neu wrthdrawiad car, lle mae perygl posibl i fywyd.
Ynghyd â'r ymweliad aml-asiantaeth dau ddiwrnod â'r ysgol yr wythnos hon, mae'r Tîm Atal Tanau Bwriadol wedi trefnu ymweliadau â Chlybiau Ieuenctid lleol, ysgolion cynradd, cwrs Ffenics yn yr ardal, digwyddiad ar y Stryd Fawr a chymryd rhan mewn patroliau ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru o gwmpas y dref.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Eleni, fel mewn blynyddoedd blaenorol, rydym yn gwrthod goddef y tanau glaswellt a mynydd bwriadol hyn sy'n arwain at ddinistrio mynyddoedd a bywyd gwyllt ledled Cymru, sy'n medru peryglu bywydau.
"Trwy weithio â'n partneriaid ar yr ymgyrch aml-asiantaeth rymus hon, rydym yn benderfynol o achosi newid a gwneud cynnau tanau bwriadol yn gwbl annerbyniol i bawb yn ein cymunedau - mae canlyniadau i danau glaswellt felly rhaid iddynt stopio!"
Meddai Arolygydd Diogelwch Cymunedol Julie Sheard: "Tra bydd swyddogion tân yn delio ag adroddiadau o danau glaswellt a mynydd bwriadol, efallai bod rhywun wedi ei ddal mewn tân mewn ty neu mewn gwrthdrawiad difrifol ar y ffordd sydd angen cymorth brys gan y gwasanaethau argyfwng. At hyn, mae tanau o'r fath yn aml yn achosi difrod mawr na ellir ei drwsio i'r amgylchedd a lladd bywyd gwyllt lleol."
"Rhwystro, addysgu a gorfodi sydd wrth graidd delio â'r ymddygiad anghyfrifol hwn ac mae gweithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddelio â'r materion sylfaenol y tu ôl i'r math yma o drosedd yn hanfodol."
Ychwanegodd Kevin Jones, Rheolwr Tîm Atal Tanau Bwriadol: "Eleni mae'r neges yn glir, os ydych yn cynnau tân bwriadol rydych yn droseddwr. Gall un peth gwirion fod â chanlyniadau difrifol ar ddyfodol person. Rwy'n annog rhieni, gwarcheidwaid, athrawon ac aelodau'r cyhoedd i gadw llygad yn agored am arwyddion ymddygiad amheus fel arogli mwg neu danwydd, meddu ar fatsys ac ymddygiad arall sy'n amheus, ac adrodd am unrhyw wybodaeth i Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Mae'r ymgyrch 'mae canlyniadau i danau glaswellt' yn rhan o strategaeth lleihau tanau glaswellt ehangach aml-asiantaeth (Dawns Glaw) sydd wedi ei datblygu gan dri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, gyda chymorth eu partneriaid, i leihau nifer y tanau glaswellt a mynydd ledled Cymru. Bydd y strategaeth ehangach yn canolbwyntio ar y negeseuon cyfathrebu, addysg, difyrrwch arall a gorfodi a'r mentrau y bydd pob partner yn eu datblygu a'u gweithredu yn ôl eu meysydd ffocws penodol nhw.
Gwyliwch y ffilm 'Wyt ti'n chwerthin nawr?' yma