Cymerodd bobl ifanc o Ysgol Brynrefail, Llanrug ran yng nghwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Mae cwrs Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.
Ar y cwrs hwn, roedd y ffocws ar feithrin hyder y bobl ifanc a oedd yn mynychu.
Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân Llanberis.
Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn atyniadol i bobl ifanc, sy'n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar ymddygiad.
"Mae'r prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw i feithrin y nodweddion rydym ni yn y Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.
"Mae'r wythnos wedi cynnwys cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth, lle roedd y bobl ifanc yn dysgu beth yw canlyniadau'r camau a gymerir ganddynt, yna gweithgareddau yn yr iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.
"Mae sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos yn cael eu harddangos mewn seremoni lle mae Prif Swyddog, aelodau'r Awdurdod Tân, rhieni, gwarcheidwaid a staff o'r ysgol yn bresennol.
"Nod y cwrs yw helpu pobl ifanc i ddatblygu cymhelliad a theimlo'n fwy cadarnhaol ynglyn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.
"Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o'r prosiect Ffenics ac yn teimlo y bydd o fudd iddyn' nhw yn y dyfodol."
- Mwy o wybodaeth ar gael yn: at: http://www.nwales-fireservice.org.uk/news/2016/2/15/phoenix-fires-up-the-youth-of-rhyl.aspx?lang=cy#sthash.b8LjqiEw.dpuf