Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân Wrecsam wedi'i chwblhau
PostiwydMAE adeiladu Canolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân (AFSRC) newydd sbon Wrecsam wedi gorffen.
Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi buddsoddi mwy na £15 miliwn ar y cyd yn yr adeilad pwrpasol hwn.
Mae'n cynnwys gorsaf dân wyth-bae, gorsaf ambiwlans chwe-bae a chyfleusterau hyfforddi o'r radd flaenaf.
Bydd y ganolfan ar Ffordd Croesnewydd yn cymryd lle'r orsaf dân bresennol ar Ffordd Bradley Wrecsam a'r gorsafoedd ambiwlans presennol yn y Waun a Wrecsam.
Bydd y staff yn dechrau gweithredu allan o'r AFSRC ym mis Ebrill pan fydd y cit a'r dodrefn wedi'u symud i mewn.
Dywedodd Sonia Thompson, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Gogledd Cymru: "Bu'r prosiect hwn ar y gweill am flynyddoedd lawer felly rydym yn falch bod yr
adeilad yn awr wedi'i gwblhau.
"Bydd yr AFSRC yn sicrhau bod y criwiau o'r diwedd yn
cael y cyfleusterau y maen nhw'n eu haeddu ac, yn y pen draw, yn golygu gwell
gwasanaeth i bobl Wrecsam a'r Waun.
"Mae bonws ychwanegol hefyd o gael ein cyd-leoli gyda chydweithwyr gwasanaeth brys lle mae perthynas waith agos wedi bod rhyngom ac wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau gyda'n gilydd."
Ychwanegodd Gary Brandrick, Uwch Reolwr Safonau Proffesiynol a Gwasanaethau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn bod y cyfleusterau cyffrous hyn wedi'u cwblhau - bydd yr AFSRC yn cynnig gwell cyfleusterau i'n staff a gwell gwasanaeth i'r cyhoedd yn yr ardal.
"Bydd gweithredu o un ganolfan yn sicrhau mwy o gydweithio wrth ymateb i
ddigwyddiadau a bydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i'r ddau sefydliad."
Cafwyd caniatâd ar gyfer yr adeilad deulawr ar dir ger Ysbyty Maelor Wrecsam gan bwyllgor cynllunio Cyngor Wrecsam ym mis Mai 2014, a chymeradwy-wyd yn ddiweddarach Achos Busnes Llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae adeilad yr ambiwlans yn cynnwys gweithdy fflyd, cyfleuster bod yn barod, garej chwe-bae, swyddfeydd ar gyfer staff a rheolwyr fflyd, ystafell ddibriffio a chanolfan leoli ar gyfer staff ymateb.
Bydd criwiau'n dechrau ar eu sifft yn yr AFSRC ac yna'n symud i bwyntiau lleoli strategol ar draws Wrecsam a'r Waun o le mae data'r Ymddiriedolaeth yn rhagweld y bydd yr alwad 999 nesaf yn dod.
Bydd cynorthwy-wyr fflyd newydd-eu-recriwtio'n glanhau cerbydau ar ôl eu defnyddio gan alluogi clinigwyr i dreulio mwy o amser wyneb yn wyneb gyda chleifion a sicrhau gwell gofal i'r ardal.
Mae adeilad y gwasanaeth tân yn cynnwys swyddfa diogelwch y gymuned
leol, garej wyth-bae, campfa, ystafelloedd hyfforddiant hynod fodern gydag
ardal hyfforddiant damweiniau ffyrdd.
Bydd y ddau wasanaeth yn rhannu cyfleusterau fel ystafell orffwys, ystafell fwyta, cegin i bawb, prif swyddfa, ystafell loceri, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant.
Adeiladwyd yr AFSRC gan Gwmni Adeiladu BAM.
Dywedodd Ian Greener, Rheolwr Adeiladu BAM: "Bu'r cynllun yn hir iawn ar y
gweill ond mae'r canlyniad terfynol yn cynnig adeilad newydd gwych sydd wedi
gofyn llawer iawn o ddyfeisgarwch gan BAM wrth ei adeiladu.
"Gobeithio y bydd y cyfleusterau newydd hardd hyn yn gwasanaethu'r ardal am
flynyddoedd lawer i ddod ac yn ganolfan addas i weithredu ohoni i bersonél y
gwasanaethau tân ac ambiwlans."