Diwrnod Cenedlaethol Dim Smygu
PostiwydI gyd-daro â Diwrnod Cenedlaethol Dim Smygu fory (9fed Mawrth 2016), mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog i smygwyr lleol sylweddoli beth yw peryglon angheuol tanio i fyny yn y cartref a'u hatgoffa bod taflu sigaréts yn ddiofal yn berygl gwirioneddol i'w bywydau.
Dylai smygwyr nad ydynt yn rhoi'r gorau iddi fod yn ymwybodol o hyd o'r peryglon tân maent yn eu wynebu, rhoi'r gorau i arferion peryglus, gosod larymau mwg ar bob lefel yn y ty a'u profi bob wythnos. Mae larwm mwg sy'n gweithio yn golygu eich bod ddwywaith yn fwy tebygol o oroesi tân damweiniol yn y ty.
"Heb system larwm cynnar yn y ty gallech golli amser dianc gwerthfawr mewn tân", meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Gall dimond dau neu dri anadliad o fwg gwenwynig wneud person yn anymwybodol.
"Ynghyd â'r peryglon i iechyd, mae angen i bobl ddeall risgiau marwol smygu yn y cartref a sut gall deunyddiau smygu arwain yn gyflym ac yn hawdd i dân.
"Wrth ddiffodd sigarét, rhaid i smygwyr wneud yn siwr eu bod yn ei diffodd yn gyfangwbl, ac os oes modd, peidio â smygu yn y cartref o gwbl."
I smygwyr nad ydynt yn barod i roi'r gorau iddi ar Ddiwrnod Dim Smygu eleni, mae'n bwysig dilyn y rhagofalon syml hyn i rwystro tân yn y cartref:
- Diffoddwch hi'n gyfangwbl! Gwnewch yn siwr bod eich sigarét wedi mynd allan yn iawn.
- Gosodwch larwm mwg a'i brofi bob wythnos. Gall larwm mwg sy'n gweithio roi amser gwerthfawr i chi fynd allan, aros allan a ffonio 999.
- Peidiwch byth â smygu yn y gwely. Byddwch yn ofalus pan fyddwch wedi blino. Mae'n hawdd iawn syrthio i gysgu gyda'ch sigarét ar dân a rhoi dodrefn ar dân.
- Dylech osgoi cyffuriau ac alcohol wrth smygu. Mae'n hawdd colli sylw ar bethau wrth ddefnyddio unrhyw fath o gyffuriau neu yfed alcohol, a gall cyfuno hyn gyda sigaréts fod yn angheuol.
- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigârs neu getyn pan fyddant yn llosgi - medrent syrthio drosodd wrth losgi i lawr.
- Defnyddiwch flwch llwch trwm na fedr syrthio drosodd yn hawdd ac wedi ei wneud o ddeunydd na fydd yn llosgi.