Gweithwyr ambiwlans a thân ar ddyletswydd yn y Ganolfan Adnoddau ar y cyd newydd
PostiwydDECHREUODD criwiau ambiwlans a thân Wrecsam eu shifft gyntaf yn y ganolfan adnoddau fodern newydd heddiw (Dydd Mawrth, 12 Ebrill).
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rhyngddynt wedi buddsoddi mwy na £15 miliwn yn y cyfleuster a adeiladwyd yn benodol at y diben - y cyntaf o'i fath yng Nghymru - sy'n cynnwys gorsaf dân â lle i wyth cerbyd, gorsaf ambiwlans â lle i chwe cherbyd, cyfleuster gwneud pethau'n barod a gweithdy trin cerbydau'r fflyd ynghyd â'r cyfleusterau hyfforddiant diweddaraf.
Daw'r Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân ar Ffordd Croesnewydd yn lle'r orsaf dân bresennol ar Ffordd Bradley yn Wrecsam, a'r gorsafoedd ambiwlans presennol yn y Waun a Wrecsam.
Mae'r prosiect wedi bod ar y gweill ers tair blynedd - a bore heddiw bydd y criwiau ar ddyletswydd o'r adeilad newydd am y tro cyntaf.
Dywedodd Sonia Thompson, Pennaeth Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yng Ngogledd Cymru: "Mae'r prosiect hwn wedi ennyn llawer o waith caled gan y bartneriaeth, felly rydym ni wrth ein boddau mai heddiw yw'r diwrnod rydym ni'n medru dechrau defnyddio'r cyfleuster newydd.
"Bydd y datblygiad hwn yn darparu'r gwasnaethau modern, wedi eu huwchraddio, y mae ein criwiau yn eu haeddu.
"Mae hefyd yn cyflwyno'r cyfle perffaith i gydweithio'n agosach â'n cydweithwyr yn y gwasanaeth tân. Mae gennym ni berthynas waith ragorol â nhw eisoes ac rydym ni'n mynd i lawer o ddigwyddiadau gyda'n gilydd."
Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i bawb fu'n ymwneud â'r prosiect ac rydym ni'n falch iawn o fod yn symud i'r ganolfan adnoddau hon sydd o'r radd flaenaf, ac a fydd yn darparu cyfleusterau gwell i'n staff a gwasanaeth gwella i'r cyhoedd yn yr ardal.
"Bydd gweithredu o un safle yn caniatáu mwy o gydlynu wrth ymateb i ddigwyddiadau a bydd yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau o ran y ddau sefydliad.
"Mae'r bartneriaeth hon wedi caniatáu i ni greu cyfleuster ar y cyd y medrwn fod yn falch iawn ohono, sy'n darparu gwasanaethau modern, gwell, wedi eu huwchraddio."
Mae'r rhan i'r gwasanaeth ambiwlans yn cynnwys gweithdy cynnal a chadw'r fflyd cerbydau, cyfleuster gwneud pethau'n barod, garej chwe bae, swyddfeydd i staff a rheolwyr y fflyd cerbydau, ystafell ôl-drafodaeth a chanolfan i staff ymateb.
Bydd criwiau ambiwlans yn dechrau eu shifft yn y Ganolfan Adnoddau ac yna'n symud i fannau strategol ledled Wrecsam a'r Waun, lle bo data galw am wasanaeth yn rhagfynegi y daw'r alwad 999 nesaf.
Bydd cynorthwywyr fflyd sydd newydd eu penodi yn glanhau'r stoc ac yn glanhau'r cerbydau ar ôl iddynt gael eu defnyddio, gan alluogi clinigwyr i dreulio mwy o amser wyneb yn wyneb â chleifion yn darparu gwell gofal i'r ardal.
Mae'r rhan i'r gwasanaeth tân yn cynnwys swyddfa diogelwch cymunedol leol, garej wyth bae, campfa, ty hyfforddiant a thwr ymarfer ynghyd ag ardal ymarfer gwrthdaro traffig ffordd.
Bydd cyfleusterau fel yr ystafell orffwyso, ffreutur, cegin, prif swyddfa, ystafell loceri a'r ystafelloedd cyfarfod a hyfforddiant yn cael eu rhannu gan y ddau wasanaeth.