Tanau yn difrodi safle gwarchodedig
PostiwydMae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn apelio am help ar ôl cyfres o danau sy'n bosib yn fwriadol ar safle gwarchodedig ger Y Fflint.
Yn ystod y mis diwethaf bu'n rhaid diffodd pump o danau ar Fynydd Helygain.
Y gred yw bod y tanau wedi'u cynnau'n fwriadol ar dir comin rhwng Pentref Helygain a Brynffordd.
Mae bywyd gwyllt yn rhan bwysig o'n hamgylchedd, ein treftadaeth a'n diwylliant yng Nghymru.
Gallai unrhyw un a gaiff ei ddal yn cynnau tân ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) heb ganiatâd wynebu dirwy o hyd at £20,000.
Meddai Anthony Randles, Cyfoeth Naturiol Cymru, Arweinydd Tîm Rheoli Adnoddau Naturiol Wrecsam a Sir y Fflint: "Rydym ni yn edrych ar ôl Mynydd Helygain, lle gall pobl fwynhau harddwch ein hamgylchedd naturiol sydd ar ein trothwy.
"Rydym yn ei warchod fel cartref i fywyd gwyllt cyfoethog, amrywiol a gwerthfawr sydd yma yng Nghymru.
"Mae tanau'n arbennig o niweidiol yn ystod y gwanwyn a'r haf gan eu bod yn gwneud drwg i adar sy'n nythu a bywyd gwyllt o fath arall sy'n ffynnu yno'r adeg yma o'r flwyddyn, fel glöynnod byw, madfallod a nadroedd.
"Gall tanau gwyllt direol arwain at ddinistrio cynefinoedd a bywyd gwyllt dros dro, tra gall llosgi'r tir drachefn ei niweidio o safbwynt amaethyddol a chadwraethol hefyd."
Ychwanegodd Kevin Jones, Arweinydd Tîm Atal Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: (Angen ei gadarnhau)
"Mae'n dorcalonnus iawn darganfod bod nifer o'r tanau yma wedi'u cynnau'n fwriadol.
"Wrth gwrs mae hyn yn rhoi pwysau eithriadol ar adnoddau, gan glymu ein criwiau am gyfnodau maith wrth iddyn nhw geisio cael y tanau dan reolaeth - rhywbeth sydd, yn ei dro, yn arwain at oedi cyn y gall diffoddwyr fynd i ddelio ag achosion sy'n peryglu bywydau.
"Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion bwriadol."
Mae Mynydd Helygain yn gartref i laswelltiroedd a rhostiroedd prin le y mae rhywogaethau a warchodir gan gyfraith Ewrop, fel y fadfall dwr cribog ac amffibiaid eraill, yn byw.
Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sef safleoedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am eu gwarchod yng Nghymru.
Gofynnir i bpawb sydd â gwybodaeth am droseddau o'r fath i ffonio Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101.
Os gwelwch dân ar Helygain neu unrhyw SoDdGA arall, ffoniwch 999 cyn gynted ag y bo modd er mwyn lleihau niwed i bobl a'r amgylchedd.
Mae Mynydd Helygain yn gartref i laswelltiroedd a rhostiroedd prin lle y mae rhywogaethau a warchodir gan gyfraith Ewrop, fel y fadfall ddwr gribog ac amffibiaid eraill, yn byw.
Mae wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sef safleoedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyfrifol am eu gwarchod yng Nghymru.