Nosweithiau agored i’r rhai â diddordeb mewn swydd diffodwyr tân rhan amser
PostiwydMae ymgyrch recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân y System Dyletswydd Rhan Amser eisoes wedi ei lansio yn gynharach y mis yma - ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bellach yn cynnal nosweithiau agored gyda'r nod o ddarparu mwy o wybodaeth i'r rhai sydd â diddordeb.
Rydym yn chwilio i recriwtio diffoddwyr tân rhan amser mewn nifer o leoliadau i helpu i amddiffyn cymunedau ar draws y rhanbarth, ac rydym yn awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân ar alwad yn eu gorsaf leol .
Os hoffech gael gwybod mwy, dewch draw i un o'n nosweithiau agored a gynhelir fel a ganlyn - mae'r rhain yn ddigwyddiadau am ddim heb unrhyw angen cadw lle o flaen llaw ;
19 Ebrill - Gorsaf Dân Dinbych 7pm
21 Ebrill - Gorsaf Dân Glannau Dyfrdwy 7pm
25 Ebrill - Gorsaf Dân Porthmadog 7pm
27 Ebrill - Gorsaf Dân Llangefni 7pm
Esboniodd Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Mae diffoddwyr tân rhan amser yn darparu gwasanaeth tân a brys hanfodol yn ardal eu gorsaf dân hwy. Rydym yn chwilio am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, sy'n medru teithio i'w gorsaf dân leol o fewn pum munud o gael eu galw allan.
"Efallai bod gan y bobl hyn rôl arall megis adeiladwyr, siopwyr, nyrsys, gweithwyr ffatri, rhieni yn y cartref neu bobl sy'n gweithio o'r cartref yn ystod oriau gwaith, ond gofynnwn hefyd bod diffoddwyr tân rhan amser ar gael i fynychu digwyddiadau argyfwng pan fo angen.
"Mae diffoddwyr tân yn staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda, gyda sgiliau rhagorol, yn achub bywydau ac eiddo rhag tân. Mae diffoddwyr tân rhan amser yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol mewn damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, pan fydd cemegau yn arllwys, mewn llifogydd, tanau mewn coedwigoedd, gweundir ac ar fynyddoedd, a damweiniau amaethyddol.
"Rydym yn chwilio am bobl sy'n frwdfrydig, yn gorfforol ffit ac sy'n medru dangos synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad - rydym yn awyddus i recriwtio rhai sy'n cynrychioli'r gymuned amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.
"Rydym yn darparu timau agos, wedi eu hyfforddi'n rhagorol, yn gweithio gydag offer modern, technoleg uwch. Bydd y rhai a benodir hefyd yn gwneud y gwaith atal tân rydym yn ei wneud i rwystro tanau rhag digwydd yn ein cymuned."
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddiddordeb mewn clywed gan unigolion ledled ardal Gogledd Cymru - er y bydd y cyfnod recriwtio cyntaf hwn yn canolbwyntio ar orsafoedd tân ym Metws y Coed, Rhuthun, Llanrwst, Dinbych, Bwcle, y Waun, Treffynnon, Llangollen, Cerrigydrudion, Amlwch, Benllech, Llangefni, Dolgellau, y Bala, Blaenau Ffestiniog, Porthmadog a Phwllheli.
I gael mwy o fanylion ar y cyfle i gael gyrfa fel diffoddwr tân rhan amser yng Ngogledd Cymru, ewch i www.gwastan-cymru.org.uk
Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu HRDesk@nwales-fireservice.org.uk
Edrychwch ar ein fideo sy'n hyrwyddo'r ymgyrch recriwtio hon yma.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf. Rhaid bod ganddynt safon dda o ffitrwydd corfforol a'r gallu i lwyddo mewn profion gallu. Yn ychwanegol at y ffïoedd misol a delir, gwneir taliadau hefyd am droi allan, mynychu digwyddiad a nosweithiau ymarfer.
Mae llawer o gyflogwyr yn ymwybodol o'r rôl hanfodol y mae staff gwasanaeth tân ac achub rhan amser yn ei chyflawni yn eu cymunedau lleol ac mae llawer yn rhyddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd tân ac argyfyngau eraill.