Ffenics yn sbarduno pobl ifanc Sir Y Fflint
PostiwydCymerodd pobl ifanc o Sir Y Fflint ran yng nghwrs arloesol Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ddiweddar.
Mae'r cwrs Ffenics wedi ei ddylunio i gynorthwyo gydag ailgyfeirio egni pobl ifanc i ymgymryd â gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil a fydd yn cynorthwyo gydag integreiddio'r unigolion gyda'u cyfoedion a'u cymunedau.
Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân Yr Wyddgrug.
Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Rwy'n falch o ddweud bod y cwrs yma wedi bod yn llwyddiant mawr i'r prosiect cyffrous hwn.
"Nod y cwrs yw cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn fwy cymhellgar a chadarnhaol ynglyn â nhw eu hunain, sydd yn ei dro yn eu gwneud yn well dinasyddion.
"Rydym yn gobeitho bod y bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi cael rhywbeth cadarnhaol o brosiect Ffenics ac yn teimlo y bydd o fudd iddynt yn y dyfodol."