Gwraig yn cael ei hachub o’i chartref yn Waunfawr
PostiwydAchubwyd gwraig 94 oed gan diffoddwyr tân o’i chartref yn Waunfawr fore heddiw ar ôl i system Careline rybuddio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tân yn ei chartref.
Galwyd criwiau o Gaernarfon a Llanberis i’r eiddo am 07.52 o’r gloch fore heddiw (dydd Mawrth 10fed Mai) ac arwain y wraig o’i llofft ar y llawr cyntaf i ddiogelwch.
Trechodd diffoddwyr tân y tân a oedd yn effeithio’r boeler yn yr ystafell aml-bwrpas ar y llawr daear gan ddefnyddio pedair set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr.
Mae’r wraig wedi ei throsglwyddo i’r ysbyty i gael archwiliad rhagofalus.
Tybir mai achos y tân oedd boeler diffygiol.
Meddai Dave Evans, Rheolwr Partneriaeth, Gwynedd a Môn o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn dangos yn glir werth y larymau hyn i helpu i amddiffyn ein trigolion – pan gyrhaeddodd y diffoddwyr tân nid oedd y deiliad yn ymwybodol o’r tân a oedd yn datblygu i lawr grisiau.
“Fe’n hysbyswyd gan Careline bod y larwm mwg wedi ei seinio yn yr eiddo, ac anfonwyd criwiau allan i archwilio. Mae’r larymau Careline hyn yn cael eu monitro 24/7 gan gwmni arbenigol – ac felly mae’r alwad yn cael ei gwneud yn awtomatig i’r gwasanaeth tân ac achub.
“Gan fod yr holl ddrysau mewnol yn yr eiddo wedi eu cau, roedd hyn wedi arafu lledaeniad y tân yn yr eiddo yn arwyddocaol – gan warchod y preswylydd. Fel rhan o drefniadau gyda’r nos, rydym yn cynghori holl drigolion i gau drysau mewnol a diffodd holl gyfarpar trydanol nad yw wedi ei fwriadu i’w adael ymlaen.
“Mae’r cyfuniad o ddrysau wedi eu cau a’r larwm wedi helpu i rwystro trasiedi yn Waunfawr y bore hwn. Roedd y larwm hwn yn amhrisiadwy gan ei fod wedi rhoi rhybudd cynnar i ni bod problem yn y cyfeiriad a gadael i’r gwasanaethau argyfwng ymateb yn gyflym. Mae’r digwyddiad hefyd yn dangos i bawb bwysigrwydd cael larymau mwg sy’n gweithio yn eu cartref.
“Rydym wedi bod yn gweithio gyda darparwyr systemau larwm cymunedol yng Ngogledd Cymru am nifer o flynyddoedd, ac rydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at uwchraddio unedau ar draws y rhanbarth gan ddefnyddio arian gan Lywodraeth Cymru – helpu i amddiffyn rhai sydd mewn perygl o gael eu hanafu gan dân yn ein cymunedau.”
I gael cyngor ar ddiogelwch yn y cartref, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.