Papur newydd llafar yn helpu lledaenu negeseuon diogelwch tân
PostiwydMae papur newydd llafar yn Nolgellau yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i helpu lledaenu cyngor a allai achub bywydau i drigolion ledled y rhanbarth.
Mae Papur Llafar y Deillion, Dolgellau a'r Cylch yn wasanaeth rhad ac am ddim i bobl na fedr ddarllen papurau newydd lleol. Maent yn darparu tâp wythnosol dwyieithog o newyddion lleol o amgylch yr ardal i unrhyw un sydd wedi ei gofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall, ynghyd â thâp cylchgrawn bob pythefnos.
Yn dilyn ymlaen o'r bartneriaeth newydd hon, mae'r tapiau nawr yn cynnwys cyngor ar ddiogelwch tân a manylion sut i wneud cais am archwiliad diogelwch cartref am ddim, sy'n cynnwys cyngor wedi ei deilwra'n benodol ar gyfer pobl sydd â phroblemau gyda'u golwg.
Anfonir y tapiau allan i drigolion ledled Gogledd Cymru.
Cychwynnodd y bartneriaeth ar ôl i Weithiwr Cymorth Diogelwch lleol, John Paul Williams, gysylltu â'r papur llafar a gofyn a fuasent yn ystyried cynnwys manylion ar sut i aros yn ddiogel rhag tân.
Esboniodd John Paul: "Mae Papur Llafar y Deillion Dolgellau a'r Cylch yn cynnig gwasanaeth gwych - mae gweithio gyda nhw yn gyfle ardderchog i ni gysylltu gyda thrigolion y gall fod yn anodd eu cyrraedd, sydd â phroblemau gyda'u golwg.
"Hoffwn ddiolch i'r papur am weithio gyda ni fel hyn, a helpu i gadw trigolion Gogledd Cymru mor ddiogel ag y bo modd. Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu sut medrwn weithio gyda'n gilydd yn y dyfodol."
Meddai Gareth Roberts o Bapur Llafar y Deillion Dolgellau a'r Cylch: "Rydym wrth ein boddau'n gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a helpu ein gwrandawyr i aros yn ddiogel yn eu cartrefi.
"Rydym yn postio 25 tâp a 35 CD bob wythnos, ac mae ychwanegu'r wybodaeth hon yn golygu ein bod yn pwysleisio pwysigrwydd larymau mwg a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt, ynghyd â'u diweddaru ar y newyddion lleol."