Gwrthdrawiad angheuol ar yr A5
PostiwydAm 8.40am, ddydd Mawrth 17 Mai, fe fynychodd y Gwasanaeth Tân ac Achub, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru Ymddiriedolaeth GIG a dwy Ambiwlans Awyr wrthdrawiad traffig y ffordd rhwng dau gerbyd ar yr A5 yng Nghapel Curig.
Yn drasig, bu farw Trystan Rhun Roberts yn y gwrthdrawiad. Roedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel mecanig prentis yn yr adran fflyd yng Nghyffordd Llandudno.
Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân: "Heddiw, mae ein cydymdeimlad â phawb sydd wedi cael eu heffeithio arnynt gan y digwyddiad hwn, ond yn enwedig gyda theulu'r cydweithiwr yr ydym wedi'i golli.
"Mae ein gwasanaeth yn mynychu gwrthdrawiadau traffig y ffordd yn aml ac maent bob amser yn anodd i'n staff ddelio â nhw, ond hyd yn oed yn anoddach pan fyddant yn cynnwys cydweithiwr.
"Bydd unrhyw un o fewn y Gwasanaeth sy'n teimlo bod angen cymorth arnynt, yn dilyn y digwyddiad trist hwn, yn ei dderbyn."