Lansio Gwarchod Ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn
PostiwydYr wythnos hon bu tîm Diogelwch Cymunedol y Gorllewin yn gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Atal Llosgi Bwriadol er mwyn lansio menter Gwarchod Ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae Gwarchod Ysgolion yn gynllun sy’n anelu at annog pawb i gadw llygad barcud ar ysgolion ar draws Gogledd Cymru er mwyn sicrhau nad oes troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd ynddynt dros wyliau’r haf.
Cafodd plant Blaenau Ffestiniog gyfle i ddysgu am waith yr Heddlu ac i edrych ar yr offer a’r cerbydau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eu defnyddio pan lansiwyd yr ymgyrch yn Ysgol y Moelwyn ddydd Mercher, 29 Mehefin.
Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i gyfarfod diffoddwyr tân, aelodau o’r Tîm Diogelwch Cymunedol, y Tîm Atal Llosgi Bwriadol a Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu lleol.
Eglurodd Norman Hughes, Swyddog Lleihau Trosedd gyda’r Tîm Diogelwch Cymunedol: “Pwrpas y lansiad oedd amlygu sut y gall y cyhoedd helpu i atal a riportio unrhyw weithgaredd troseddol.
Ychwanegodd: “Mae cyllideb ysgolion yn gyfyngedig a dylid defnyddio’u hadnoddau gwerthfawr i addysgu plant yn hytrach nac atal lladradau a difrod troseddol”.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Atal Llosgi Bwriadol: "Mae ysgolion yn adnoddau hynod bwysig yn ein cymunedau a rhaid gwneud popeth bosibl i’w diogelu. Rydw i’n annog aelodau’r cyhoedd i gadw llygad ar eu hysgol leol yn ystod gwyliau’r ysgol ac i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw beth amheus.”
Ychwanegodd Geraint Hughes, Rheolwr Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae Gwarchod Ysgolion yn rhan hollbwysig o waith diogelwch cymunedol ac rwy’n credu’n gryf y mwyaf o ymgysylltiad gawn ni gydag aelodau’r gymuned, y mwyaf llwyddiannus fyddwn ni o ran lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”
“Meddyliwch - ‘da chi’n byw yn ymyl, neu’n gweld ysgol o’ch tŷ? ‘Da chi’n cerdded neu’n gyrru heibio ysgol yn rheolaidd? Os mai’r ateb yw ‘ydw’ yna gallwch helpu dros gyfnod yr haf. Cymerwch eiliad neu ddau i edrych ar yr ysgol ac os gwelwch unrhyw ymddygiad amheus yna riportiwch o i Heddlu Gogledd Cymru.”
Mae taflenni a phosteri’n cael eu dosbarthu ledled Ynys Môn a Gwynedd i atgoffa’r cyhoedd am y cynllun sydd hefyd yn anelu at roi stop ar ymddygiad difeddwl sydd nid yn unig yn effeithio ar ysgolion ond ar y gymuned gyfan.
Rydym yn annog unrhyw un sy’n gweld ymddygiad amheus yn neu o amgylch ysgolion neu adeiladau ysgolion i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru. Os ydych yn gweld trosedd yn digwydd ffoniwch 999 bob amser. Ffoniwch 101 os nad yw eich galwad yn un frys neu Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111.