Rhybudd diogelwch e-sigaréts yn dilyn tân mewn tŷ yn Nefyn
PostiwydMae swyddogion tân yn rhybuddio trigolion am beryglon e-sigaréts yn dilyn tân mewn tŷ yn Nefyn.
Galwyd criwiau o Nefyn, Abersoch a Chaernarfon i dân mewn eiddo ar Stryd y Llan, Nefyn am 11:56 y bore heddiw (Dydd Gwener 5ed Awst).
Credir mai achos y tân oedd e-sigarét oedd wedi ei gadael ar y gwefrydd (‘charger’).
Defnyddiodd y Diffoddwyr Tân ddau set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i ddiffodd y tân. Achosodd y tân 100% o ddifrod tân i ystafell wely a 100% o ddifrod mwg i weddill y llawr cyntaf. Roedd yna hefyd difrod tân i nenfwd y llawr gwaelod.
Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol : “Mae'r digwyddiad hwn yn dangos at pa mor gyflym y gall tân ledu - a phwysigrwydd defnyddio eitemau trydanol yn gywir a’u gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
“Profiad gwasanaethau tân ac achub ar draws y DU yw y gall e-sigaréts gario mwy o risg o dân a byddem yn eich annog i fod yn arbennig o ofalus wrth eu defnyddio.
“Mae pob e-sigarét yn defnyddio batris aildrydanadwy i roi pŵer i’r anweddwr ac mae’r batris hyn angen eu hail-wefru yn rheolaidd.
“Byddem yn eich cynghori dim ond i brynu’r cynhyrchion hyn o ffynhonnell ag enw da, a dim ond defnyddio'r batri a gwefrydd a ddarparwyd gyda'r e-sigarét i wefru. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser a rhowch y gwefrydd i ffwrdd a thynnu’r plwg allan cyn mynd i’r gwely. Peidiwch byth â chymysgu gwefryddion – mae’n bwysig eich bod bob amser yn defnyddio’r gwefrydd a gawsoch gyda’r e-sigarét.
“Peidiwch byth â gadael eitemau ar wefrydd neu heb oruchwyliaeth am gyfnodau hir – gwyddom bod e-sigaréts yn gorboethi wrth wefru.”
Cliciwch yma i weld clip byr ar ddiogelwch e-sigaréts https://www.youtube.com/watch?v=QyKzAhLYhXM