Yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân wedi helpu pobl ifanc leol
PostiwydMae lloches newydd wedi cael ei godi mewn parc sglefrio ym Mlaenau Ffestiniog ar ôl ychydig o hwb ariannol gan yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân.
Mae’r parc sglefrio, sy’n cael ei ariannu a’i gynnal a’i gadw gan Gyngor Tref Blaenau Ffestiniog, yn gyfleuster pwysig i rai o bobl ifanc y dref.
Meddai Rhingyll Iwan Lloyd Jones o Dîm Cymdogaethau Diogelach De Gwynedd: “Tynnwyd ein sylw ni at y prosiect hwn gan Gyngor y Dref oedd wedi cael llythyr gan griw o bobl ifanc yn gofyn am loches a gwelliannau eraill yn y parc. Roedd y bobl ifanc wedi codi peth o’r arian eu hunain ac roedd Cyngor y Dref hefyd yn cyfrannu. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y bobl ifanc yn dangos y fath awydd a pharodrwydd i geisio gwella eu hamgylchedd a’r teimlad oedd bod hwn yn brosiect gwerth ei gefnogi”
Cyfrannwyd arian ar gyfer y prosiect gan y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol sy’n cynnwys swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Tân. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf er mwyn amlygu peryglon cynnau tanau bwriadol, yn enwedig tanau gwair ac eithin. Darparwyd symiau o arian er mwyn cefnogi prosiectau lleol a fyddai’n trefnu gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Addysgu Busnesau a Thîm Lleihau Llosgi Bwriadol: “Un elfen o'r fenter amlasiantaeth 'Dawns Glaw' oedd cyfrannu arian tuag at y lloches yn y parc sglefrio. Mae’r fenter 'Dawns Glaw' wedi bod yn hynod o lwyddiannus ac wedi arwain at ostyngiad arwyddocaol yn y nifer o danau gwair yr ydym wedi gorfod eu mynychu eleni yn ardal Ffestiniog. Roedd y lloches yn rhywbeth yr oedd y bobl ifanc leol wedi gofyn amdano er mwyn iddyn nhw gael rhywle i fynd rhag y glaw pan maen nhw’n defnyddio’r parc. Mae’n braf gweld y bobl ifanc yn mwynhau’r cyfleusterau ac all y lloches ddim ond gwneud y profiad yn well iddyn nhw.”