Dathlu gorsaf ambiwlans a thân newydd Wrecsam yn ystod diwrnod agored i’r gymuned
PostiwydDathlu gorsaf ambiwlans a thân newydd Wrecsam yn ystod diwrnod agored i’r gymuned
Mae gwasanaethau brys yn Wrecsam yn gwahodd y cyhoedd i’w helpu i ddathlu Canolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân (AFSRC) newydd y dref.
Bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal diwrnod agored ddydd Sadwrn 1 Hydref rhwng 11am a 3pm yn yr AFSRC ar Ffordd Croesnewydd.
Bydd modd i ymwelwyr gael mynd i mewn i ambiwlans ac injan dân a gweld sut mae’r criwiau’n cydweithio i achub anafusion yn ystod damwain traffig ffug.
Bydd hefyd arddangosfeydd cymorth cyntaf, gweithgareddau a gemau ar gael yn ogystal â chyfle i gefnogi Ymatebwyr Cyntaf Wrecsam, Cadetiaid Tân ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Bydd cydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dangos sut y maent yn mynd ati i gadw’r gymdogaeth yn ddiogel.
Bydd modd i ymwelwyr barcio y tu ôl i Ysbyty Maelor, Wrecsam yn y maes parcio ar yr hen reilffordd.
I gyrraedd y maes parcio ewch trwy dir yr ysbyty drwy Giât 1 (wrth brif fynedfa’r ysbyty) a gyrrwch yn syth ymlaen hyd nes i ’r dramwyfa eich harwain i’r chwith i fynd y tu ôl i’r ysbyty.
Dylai gyrwyr droi i’r dde yma tuag at fynedfa’r maes parcio, sydd yn agos at safle’r AFSRC. Mae llwybr yn arwain o’r maes parcio at yr AFSRC.
Bydd arwyddion a threfnwyr wrth law i helpu gyrwyr barcio yn y maes parcio cywir.
Mae dros £15 miliwn wedi cael ei fuddsoddi yn y cyfleuster newydd hwn a gafodd ei agor yn swyddogol ddoe (Dydd Iau 22 Medi 2016) gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon, Vaughan Gething AC, a’r Ysgrifennydd Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC.
Mae’r ganolfan bwrpasol hon, y cyntaf o’i bath yng Nghymru, yn cynnwys gorsaf dân wyth bae, gorsaf ambiwlans chwe bae, ystafell ymbaratoi a gweithdy ar gyfer y fflyd yn ogystal â chyfleusterau hyfforddi.
Mae’r AFSRC yn cymryd lle’r hen orsaf dân ar Ffordd Bradley yn Wrecsam a’r hen orsafoedd ambiwlans yn y Waun a Wrecsam.