Wythnos Diogelwch yn y Cartref – lleihau’r tebygolrwydd o dân yn eich cartref
Postiwyd
Mae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn apelio ar drigolion i gymryd camau i leihau’r perygl o dân yn y cartref fel rhan o Wythnos Diogelwch yn y Cartref (26ain Medi i 2il Hydref).
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae bron i hanner y tanau yr ydym ni’n eu mynychu mewn cartrefi yng Ngogledd Cymru wedi eu hachosi gan goginio. Mae Wythnos Diogelwch yn y Cartref yn rhoi cyfle i ni ofyn i’n cymunedau gadw diogelwch mewn cof wrth baratoi prydau, ac rydym am i bobl gofio’r neges hon drwy gydol y flwyddyn.”
Dyma air i gall gan Stuart i helpu trigolion i gadw’n ddiogel yn y gegin:
- Byddwch yn wyliadwrus. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a diffoddwch bentanau os oes rhaid i chi adael y gegin rhag ofn i chi anghofio bod gennych fwyd yn coginio
- Cadwch eich cegin yn ddiogel, cadwch fenig popty a defnyddiau fflamadwy ymhell o’r pentan, cadwch gyfarpar coginio yn lân a chadwch fentiau eich microdon yn glir rhag ofn iddo orboethi.
- Os cewch dân yn y gegin, caewch y drws; ewch allan a galwch 999. Peidiwch byth â thaflu dŵr ar olew poeth rhag ofn i chi achosi pelen dân. Yn yr un modd, peidiwch byth â defnyddio dŵr i geisio diffodd tân trydanol. Ewch allan, caewch y drws, rhybuddiwch eraill a galwch 999.
- Byddwch yn wyliadwrus wrth goginio a pheidiwch byth â gadael dim byd ar y pentan. Os oes raid i chi bicio allan o’r gegin, cadwch lygaid ar y cloc a pheidiwch â mynd yn bell
- Diffoddwch y popty neu’r pentan yn syth ar ôl i chi orffen ei defnyddio.
- Peidiwch byth â storio dim byd ar ben eich microdon. Dyma ble mae’r fentiau, sydd yn sicrhau na fydd y ficrodon yn gorboethi. Os bydd y fentiau hyn yn cael eu blocio, yn hyd yn oed yn fudr neu lychlyd, mae’n fwy tebygol o fynd ar dân
- Peidiwch â choginio os ydych chi wedi blino, wedi bod yn yfed alcohol neu gymryd cyffuriau sydd yn eich gwneud yn gysglyd. Rydych mewn mwy o berygl o adael y popty neu’r pentan ymlaen heb neb i gadw llygaid arnyni yn ogystal â dioddef llosgiadau.
- Dylech brofi a chynnal a chadw’ch larwm mwg yn rheolaidd.
Ychwanegodd Stuart: “Rydym hefyd yn cael ein galw i nifer uchel o danau trydanol bob blwyddyn ac rydym yn argymell deiliaid tai i gofrestru cyfarpar trydanol. Mae’n ddoeth cofrestru fel y gall gwneuthurwyr gysylltu â chi os byddant yn dod o hyd i nam ar gyfarpar. Ar adegau prin iawn mae gwneuthurwyr yn adnabod problemau gyda chyfarpar sydd wedi bod yn cael eu defnyddio ers tro ac felly maent yn cysylltu gyda phobl i drwsio’r cyfarpar ar unwaith.
“Gallwch hefyd arbed arian drwy gofrestru drwy dderbyn gwarant estynedig.”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chofrestru cyfarpar ewch i www.registermyappliance.org.uk ac am ragor o wybodaeth am gadw’n ddiogel yn y cartref ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk